Picen ar y Maen a gwydraid o laeth
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
Ydych chi'n ddisgybl sy'n blasu’r pryd hwn am y tro cyntaf? Rydyn ni eisiau eich adborth. Rhowch wybod i'r cogydd, neu anfonwch neges trwy e-bost i louise.gillam@torfaen.gov.uk Mae eich llais yn bwysig! 
Dewis Ein Dietegydd 
"Mae'r holl flawd gwyn yn y DU wedi'i atgyfnerthu â haearn, a law yn llaw â'r ffrwythau sych sy'n ffynhonnell naturiol dda o haearn, mae'r opsiwn Cymreig traddodiadol hwn, pan gaiff ei weini gyda gwydraid o laeth ar gyfer y calsiwm, yn un o'r ddau ddewis gorau sydd gennym. Er y dylid osgoi ffrwythau sych fel byrbryd rhwng prydau (oherwydd siwgrau crynodedig naturiol sy'n glynu at y dannedd), maen nhw'n ddewis gwych fel ychwanegiad at brif bryd neu bwdin." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein bwydlenni - mae ein pice ar y maen wrth gwrs yn gynnyrch lleol ac mae'r diod o laeth hanner-sgim hefyd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, gan gefnogi ein heconomi leol a'n swyddi a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 
 Nôl i’r Brig