Selsig Quorn (fe) a phwdin Swydd Efrog, gyda tato rhost sych a thato wedi'u berwi, llysiau tymhorol, a grefi

Quorn sausage (Ve) served with stuffing, seasonal vegetables, roast and boiled potatoes and gravy

Pam ddewison ni’r pryd hwn? 

Dewis Ein Disgyblion 

"Roedd yn neis ac yn flasus" Inayah, Ysgol Gynradd Llantarnam 

Dewis Ein Dietegydd 

"Rydyn ni’n gwrando ar ein disgyblion bob tro. Ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau’r opsiwn o ddewis pryd llysieuol bob dydd, er nad ydyn nhw efallai eisiau dilyn bwydlen sy’n llysieuol i gyd. Ac mae'r selsig Quorn Fegan hyn wedi eu gwneud o ficro-brotein, perthynas naturiol agos i fadarch gydag ysgeintiaid o berlysiau, ac maen nhw'n ffynhonnell dda ar gyfer protein a ffibr. Rydyn ni'n rhoi amrywiaeth o lysiau i'n cogyddion ddewis ohonynt (byth llai na dau), ac mae disgyblion yn cael cynnig tato rhost a thato wedi’u berwi. Mae ein tato rhost wedi'u rhostio'n sych yn y ffwrn felly dydyn ni ddim yn ychwanegu unrhyw fraster ond maen nhw'n dal i fod yn ffefryn pendant ymhlith ein disgyblion." 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Llai o Allyriadau Carbon – mae Prifysgol Caeredin wedi cyfrifo dwysedd carbon ein holl ryseitiau. Mae dewis y cinio selsig Quorn yn hytrach na'r cinio selsig porc sydd ar y fwydlen ar y diwrnod hwn yn arwain at ddewis sydd â thua 1/4 o'r allyriadau carbon.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon