Cyri Quorn a llysiau gyda reis, pys a chorn melys a bara Naan

Quorn and vegetable curry served with rice, peas and sweetcorn and Naan bread

Pam ddewison ni’r pryd hwn? 

Dewis Ein Disgyblion 

‘Rydw i'n dwlu ar y cyri' Anneska, Ysgol Gynradd Llantarnam 

Dewis Ein Dietegydd 

"Rydyn ni’n gwrando ar ein disgyblion bob tro. Ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau’r opsiwn o ddewis pryd llysieuol bob dydd, er nad ydyn nhw efallai eisiau dilyn bwydlen sy’n llysieuol i gyd. Felly pam cyri Quorn a llysiau? Mae llai o fraster dirlawn mewn Quorn na chig eidion, mae’n dda i iechyd y galon a hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer protein a ffibr. Mae llysiau'n gyfoeth o fitaminau a mwynau, gan gynnwys haearn, ac felly'n ychwanegiad gwych at y pryd. Ac mae'r reis yn darparu carbohydradau i'w rhyddhau'n araf, er mwyn cynnal disgyblion trwy brynhawn o ddysgu. Byddwn hefyd bob amser yn annog llysiau, ac yma mae'r pys a chorn melys, sy'n ddewis poblogaidd, yn ychwanegiad maethlon." 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Llai o Allyriadau Carbon – mae Prifysgol Caeredin wedi cyfrifo allyriadau carbon ein holl ryseitiau. Mae'r cyri hwn yn gyfrifol am 45% yn llai o allyriadau carbon na'r cyri cyw iâr sydd ar gael ar yr un fwydlen ar y diwrnod hwn. Mae'n wych i'r rheiny sydd eisiau gwneud newidiadau bach tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy! 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon