Lasagne Quorn a sbigoglys (ll) gyda bara garlleg a llysiau neu salad
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Ydych chi'n ddisgybl sy'n blasu’r pryd hwn am y tro cyntaf? Os felly, rydyn ni eisiau eich adborth. Rhowch wybod i ni os yw'r pryd hwn yn dda neu'n ddrwg trwy roi gwybod i'ch cogydd yn yr ysgol neu anfon neges trwy e-bost i louise.gillam@torfaen.gov.uk 
Dewis Ein Dietegydd 
"Rydyn ni’n gwrando ar ein disgyblion bob tro. Ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau’r opsiwn o ddewis pryd llysieuol bob dydd, er nad ydyn nhw efallai eisiau dilyn bwydlen sy’n llysieuol i gyd.  
Felly pam lasagne Quorn a sbigoglys? Mae llai o fraster dirlawn mewn Quorn na chig eidion, mae’n dda i iechyd y galon a hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer protein a ffibr. Mae sbigoglys, sy'n gyfoeth o fitaminau a mwynau, gan gynnwys haearn, yn ddewis gwych i ychwanegu at y pryd. Mae'r pryd hwn hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer calsiwm (llaeth hanner-sgim yn y saws gwyn a thopin o gaws). Ac mae'r haenau lasagne yn darparu'r carbohydradau er mwyn rhoi egni sy'n rhyddhau'n araf, i gynnal disgyblion ar gyfer prynhawn o ddysgu. Byddwn yn annog llysiau neu salad bob tro fel ychwanegiad maethlon." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Llai o allyriadau carbon – mae Prifysgol Caeredin wedi cyfrifo dwysedd carbon ein holl brydau. Mae'r lasagne hwn yn gyfrifol am lai na 1/4 allyriadau carbon y lasagne arall ar y fwydlen ar y diwrnod hwn. Dewis gwych i'r rheiny sydd eisiau gwneud newidiadau bach tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy! 
Mwy o Gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni - mae ein llaeth hanner-sgim a ddefnyddir yn y saws gwyn, a'n caws Cheddar, yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru, gan gefnogi ein heconomi leol a'n swyddi a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 
 Nôl i’r Brig