Pasta Bolognese gyda bara garlleg a salad
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
"Hyfryd a llenwi fy mol" Angelica, Nant Celyn 
"Hyfryd iawn a blasus" Amy, Nant Celyn 
"Rydw i mor hoff o hwn!" Myla, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim  
"Rwy’n hoff iawn o hwn!" Theo, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim 
Dewis Ein Dietegydd 
"Mama Mia! Does dim byd i beidio â’i hoffi am y pryd poblogaidd hwn! Rydyn ni’n gwybod bod nifer uchel o blant ddim yn cael digon o haearn neu sinc yn eu diet. I rai plant, gallai bwyta mwy o’r bwydydd sy’n cynnwys y maetholion hyn wneud gwahaniaeth i hwyliau, ymddygiad a dysgu. Mae ein Bolognese cartref yn cael ei wneud gyda briwgig cig eidion a briwgig Quorn, a gyda’r bara garlleg mae’r dewis hwn yn sgorio’n uchel ar gyfer y maetholion haearn a sinc. Mae yna lysiau ychwanegol yn y saws tomato, felly gallwch fod yn sicr fod hyd yn oed y rheiny sydd ychydig yn amharod i fynd am y salad yn cael bonws cudd Ac, fel bob amser, rydyn ni’n annog y salad fel ychwanegiad maethlon." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Safonau Gwarant Fferm y DU – prif gynhwysyn unrhyw Bolognese yw briwgig cig eidion – ac rydyn ni’n defnyddio Briwgig Cig Eidion Tractor Coch y DU o ansawdd uchel, a dim byd arall. Trwy wneud hyn, rydyn ni’n cefnogi ffermwyr y DU ac yn sicrhau ein bod yn dawel ein meddwl gan wybod ei fod wedi cael ei gynhyrchu i safonau sydd wedi eu harolygu’n annibynnol sy’n gysylltiedig â thrin anifeiliaid, diogelwch bwyd a’r gallu i olrhain bwyd. 
Llai o Allyriadau Carbon – rydyn ni’n gwybod bod briwgig cig eidion yn uchel o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr (tua 32.13 Co2e). Felly, rydyn ni wedi newid ein rysáit ychydig bach ac wedi defnyddio briwgig Quorn yn lle 40% o'r briwgig cig eidion gydag ôl troed carbon o 1.29 Co2e - gan leihau'r allyriadau carbon yn y rysáit hon 39% gydag un newid syml fel hwn. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 24/10/2025 
 Nôl i’r Brig