Crymbl ffrwythau a chwstard
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
"Gwych a blasus, hoffwn i gael hwn eto yfory " Sophie, Ffordd Blenheim  
"Hyfryd a blasus " Terry, Ffordd Blenheim  
"Mae mor dda!!!" Brooklyn, Penygarn 
"Mae’n flasus ac yn iach " Danielle, Penygarn 
"Roeddwn i’n ei hoffi’n fawr " Summer, Penygarn 
Dewis Ein Dietegydd 
"Mae'r pwdin ffrwythau hwn yn opsiwn blasus sy'n cyfrannu ymhellach at 5 y dydd eich plentyn. Rydyn ni’n gwneud ein crymbl gyda blawd a cheirch, gan fod ceirch yn ffynhonnell dda ar gyfer ffibr (ar gyfer treulio iach) ac wedi'i brofi'n wyddonol i leihau colesterol. Mae ein cwstard wedi'i wneud â llaeth ffres hefyd sy’n wych i gyfrannu at anghenion calsiwm disgyblion (ar gyfer esgyrn a dannedd cryf) a sinc (ar gyfer tyfu’n iach a system imiwnedd iach)." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – mae’r llaeth hanner-sgim a ddefnyddir yn ein cwstard yn laeth Cymreig, wrth gwrs, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 27/10/2025 
 Nôl i’r Brig