Cyri Quorn a llysiau gyda reis, salad a bara Naan
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
‘Rydw i'n dwlu ar y cyri' Anneska, Ysgol Gynradd Llantarnam 
Dewis Ein Dietegydd 
"Rydyn ni’n gwrando ar ein disgyblion bob tro. Ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau’r opsiwn o ddewis pryd llysieuol bob dydd, er nad ydyn nhw efallai eisiau dilyn bwydlen sy’n llysieuol i gyd. Felly pam cyri Quorn a llysiau? Mae llai o fraster dirlawn mewn Quorn na chig eidion, mae’n dda i iechyd y galon a hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer protein a ffibr. Mae llysiau'n gyfoeth o fitaminau a mwynau, gan gynnwys haearn, ac felly'n ychwanegiad gwych at y pryd. Ac mae'r reis yn darparu carbohydradau i'w rhyddhau'n araf, er mwyn cynnal disgyblion trwy brynhawn o ddysgu. Byddwn yn annog llysiau neu salad bob tro fel ychwanegiad maethlon" 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Llai o allyriadau carbon – mae Prifysgol Caeredin wedi cyfrifo allyriadau carbon ein holl ryseitiau. Mae'r cyri hwn yn gyfrifol am 45% yn llai o allyriadau carbon na'r cyri cyw iâr sydd ar gael ar yr un fwydlen ar y diwrnod hwn. Mae'n wych i'r rheiny sydd eisiau gwneud newidiadau bach tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy! 
 
 
 Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 
 Nôl i’r Brig