Nygets Quorn (fe) gyda sgwariau tato â pherlysiau, pys a bara a thaeniad
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Dietegydd 
"Mae'r nygets hyn heb gig wedi'u gwneud o ficro-brotein, perthynas naturiol agos i  fadarch. Maen nhw'n isel mewn braster dirlawn ac yn ffynhonnell ar gyfer protein a ffibr, ac maen nhw’n ffefryn ymhlith ein disgyblion, sy'n aml ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng y rhain a'r ffefryn arall, y nygets cyw iâr. Mae’r sgwariau tato â pherlysiau wedi'u pobi yn y ffwrn ac yn garbohydrad blasus i fynd gyda'r pryd sy'n rhyddhau egni'n araf trwy gydol y prynhawn. Ac, fel bob amser, mae disgyblion yn cael eu hannog i fwyta mwy o lysiau, ac yma rydyn ni'n cynnig pys, dewis poblogaidd sydd hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer haearn." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Lleihau allyriadau carbon y Gwasanaeth - mae Prifysgol Caeredin wedi cyfrifo dwysedd carbon yr holl ddewisiadau ar ein bwydlenni. Mae ôl troed carbon y pryd hwn 38% yn is na'r opsiwn goujons cyw iâr. Mae'r nygets Quorn hyn hefyd yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio 83% yn llai o ddŵr na nygets cyw iâr (Adroddiad Cymharu yr Ymddiriedolaeth Carbon 2022).  
Mwy o Gynnyrch Cymreig ar ein bwydlenni - dim ond bara wedi'i sleisio a gynhyrchir yng Nghymru sy'n cael ei ddefnyddio ar ein bwydlenni ac mewn clybiau brecwast, gan gefnogi ein heconomi leol a'n swyddi a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 
 Nôl i’r Brig