Cacen lemwn a chwstard
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
Ydych chi'n ddisgybl sy'n blasu’r pryd hwn am y tro cyntaf? Rydyn ni eisiau eich adborth. Rhowch wybod i'r cogydd, neu anfonwch neges trwy e-bost i louise.gillam@torfaen.gov.uk. Mae eich llais yn bwysig! 
Dewis Ein Dietegydd 
"Mae'r sbwng hwn yn rysáit iachach sy’n arbennig ar gyfer ein disgyblion ysgol, gyda llai o fraster a siwgr, ac mae wedi'i bobi gydag ychydig bach o lemwn sy'n ychwanegu ychydig bach o felyster ac yn cyfrannu at y lefelau Fitamin C. 
Poeni am galorïau, braster neu siwgr? Mae ein ryseitiau a'n bwydlenni yn cael eu hystyried yn ofalus i sicrhau nad yw disgyblion yn cael gormod o galorïau, braster neu siwgr. 
Rwy'n mynd ati’n bersonol i gynnal dadansoddiad maethol o’n bwydlenni ysgolion cynradd cyn eu cyhoeddi, i sicrhau eu bod yn bodloni Safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer prydau ysgol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynnwys tua thraean o anghenion maethol dyddiol disgyblion, ar gyfartaledd. Mae hyn yn cynnwys bodloni safonau ar gyfer uchafswm calorïau, braster, braster dirlawn a siwgr." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – mae’r llaeth hanner-sgim a ddefnyddir yn ein cwstard yn laeth Cymreig, wrth gwrs, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 24/10/2025 
 Nôl i’r Brig