Pasta Quorn a llysiau (ll) gyda salad a bara garlleg

Quorn and vegetable pasta bake (V) served with salad and garlic bread

Pam ddewison ni’r pryd hwn? 

Dewis Ein Disgyblion 

"Rwy'n hoffi'r pasta a'r saws" Mollie, Ysgol Gynradd Mair a'r Angylion 

Dewis Ein Dietegydd 

"Rydyn ni’n gwrando ar ein disgyblion bob tro. Ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau’r opsiwn o ddewis pryd llysieuol bob dydd, er nad ydyn nhw efallai eisiau dilyn bwydlen sy’n llysieuol i gyd. 

Felly pam pasta Quorn a llysiau? Mae llai o fraster dirlawn mewn Quorn na chig eidion, mae’n dda i iechyd y galon a hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer protein a ffibr. Mae llysiau'n gyfoeth o fitaminau a mwynau, gan gynnwys haearn, ac felly'n ychwanegiad gwych at y pryd. Ac mae'r pasta yn darparu carbohydradau i'w rhyddhau'n araf, er mwyn cynnal disgyblion trwy brynhawn o ddysgu. Yn ogystal, mae'r topin o gaws cheddar wedi'i doddi yn gyfraniad sylweddol at gynnwys calsiwm y pryd. 

Gan ein bod yn ei wneud ein hunain, gallwn warantu bod y pryd hwn yn flasus ac nad oes unrhyw beth cas yn cuddio ynddo. Caiff ei weini gyda salad tymhorol, gan ein bod ni bob amser yn annog ein disgyblion i anelu am eu 5 y Dydd!" 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Llai o Allyriadau Carbon – mae Prifysgol Caeredin wedi cyfrifo dwysedd carbon ein holl ryseitiau. Mae dewis y pasta hwn yn lle'r pasta cig ar y fwydlen yn golygu eich bod chi'n dewis pryd sydd ag ôl troed carbon tua 75% yn is. Dewis gwych i'r rheiny sydd eisiau gwneud newidiadau bach tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy! 

Mwy o Gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni - Mae ein caws Cheddar yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, ac felly mae'n cefnogi ein heconomi leol a'n swyddi ac yn lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon