Bysedd pysgod penfras wedi'u gweini gyda sgwariau tatws â pherlysiau, ffa pob a bara a thaeniad
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
"Dwlu arno " Anthony, Maendy 
"Maen nhw mor flasus" Mia, Woodlands 
"Blasus dros ben" Taylor, Woodlands 
"Wyneb hapus a bawd i fyny!" Alice, Maendy 
"Neis iawn" Elijah, Woodlands 
Dewis Ein Dietegydd 
"Mae pysgod yn llawn protein ac yn isel mewn braster, ac mae nhw’n ffynhonnell dda ar gyfer fitaminau a mwynau. Oherwydd hyn, argymhellir ein bod yn bwyta 2 ddogn o bysgod bob wythnos. Mae cinio ysgol yn helpu ein disgyblion i gyrraedd y targed hwn trwy gynnwys pysgod ar y fwydlen bob wythnos. Mae ein bysedd pysgod penfras mewn briwsion ac nid cytew, ac maen nhw’n cael eu pobi yn y ffwrn ar y safle gyda’n sgwariau tatws â pherlysiau, fel bod llai o fraster a braster dirlawn. Mae ein ffa pob yn rhai sy’n isel mewn halen a siwgr bob tro." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Pysgota Cynaliadwy – yn rhan o'n hymrwymiadau i'n cyfrifoldebau amgylcheddol, rydyn ni’n defnyddio bysedd pysgod sydd wedi'u hardystio gan MSC yn unig, felly gall ein disgyblion lenwi eu boliau gan wybod eu bod yn helpu i ddiogelu ein cefnforoedd, ein bywoliaeth a stoc pysgod y dyfodol. 
Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – mae ein bara wedi’i greu yng Nghymru, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 22/10/2025 
 Nôl i’r Brig