Sbwng jam a choconyt gyda chwstard
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
"Anhygoel" Oscar, Ysgol Gymraeg Cwmbrân 
"Bendigedig" Lowry, Ysgol Gymraeg Cwmbrân 
"Ardderchog" Aeddan, Ysgol Gymraeg Cwmbrân 
"Rwy’n hoffi hwn, dyma fy ffefryn" Isabelle, Ysgol Gymraeg Cwmbrân 
"Bawd i fyny!" Tommy, Ysgol Gymraeg Cwmbrân 
Dewis Ein Dietegydd 
"Mae'r sbwng hwn yn rysáit iachach sy’n arbennig ar gyfer ein disgyblion ysgol, gyda llai o fraster a siwgr, ac mae wedi'i bobi gydag ychydig bach o jam sy'n ychwanegu ychydig bach o felyster a lliw. 
Rydyn ni’n gwneud ein cwstard gyda llaeth ffres, gan gyfrannu'n sylweddol at anghenion calsiwm (ar gyfer esgyrn a dannedd cryf) a sinc (er mwyn tyfu’n iach  a system imiwnedd iach) ein disgyblion. 
Poeni am galorïau, braster neu siwgr? Mae ein ryseitiau a'n bwydlenni yn cael eu hystyried yn ofalus i sicrhau nad yw disgyblion yn cael gormod o galorïau, braster neu siwgr. 
Rwy'n mynd ati’n bersonol i gynnal dadansoddiad maethol o’n bwydlenni ysgolion cynradd cyn eu cyhoeddi, i sicrhau eu bod yn bodloni Safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer prydau ysgol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynnwys tua thraean o anghenion maethol dyddiol disgyblion, ar gyfartaledd. Mae hyn yn cynnwys bodloni safonau ar gyfer uchafswm calorïau, braster, braster dirlawn a siwgr." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – mae’r llaeth hanner-sgim a ddefnyddir yn ein cwstard yn laeth Cymreig, wrth gwrs, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 23/10/2025 
 Nôl i’r Brig