Bys pysgod mawr gyda sgwariau tatws â pherlysiau, ffa pob neu bys a bara a thaeniad
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
"Blasus" Rory, Ysgol Panteg 
"Roedd yn iymi" Toby a Jacob, Ysgol Panteg 
Dewis Ein Dietegydd 
"Mae pysgod yn llawn protein ac yn isel mewn braster, ac mae nhw’n ffynhonnell dda ar gyfer fitaminau a mwynau. Oherwydd hyn, argymhellir ein bod yn bwyta 2 ddogn o bysgod bob wythnos. Mae prydau ysgol yn helpu ein disgyblion i gyrraedd y targed hwn trwy gynnwys pysgod ar y fwydlen bob wythnos. Mae ein bysedd pysgod yn cael eu pobi yn y ffwrn ar y safle fel bod llai o fraster a braster dirlawn. Mae ein ffa pob yn rhai sy’n isel mewn halen a siwgr bob tro, ac mae pys yn ffynhonnell dda ar gyfer haearn hefyd gan gyfrannu at darged eich plentyn o 5 y dydd." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Pysgota Cynaliadwy – yn rhan o'n hymrwymiadau i'n cyfrifoldebau amgylcheddol, rydyn ni’n defnyddio bysedd pysgod sydd wedi'u hardystio gan MSC yn unig, felly gall ein disgyblion lenwi eu boliau gan wybod eu bod yn helpu i ddiogelu ein cefnforoedd, ein bywoliaeth a stoc bysgod y dyfodol. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 23/10/2025 
 Nôl i’r Brig