Cyri cyw iâr cartref gyda reis, salad a bara Naan
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
"Roedd yn flasus dros ben" Iwan, Ysgol Gymraeg Cwmbrân 
"Sbeislyd ond hyfryd" Aaliyah, Ysgol Gynradd Penygarn  
"Roedd yn hynod o flasus" Georgie, Ysgol Gymraeg Cwmbrân  
"Roedd yn bendant yn blasu fel cyri, dwlu arno!" Osian, Ysgol Gymraeg Cwmbrân 
Dewis Ein Dietegydd 
"Er mai ychydig o sbeisys sydd yn y dewis cartref hwn er mwyn iddo apelio at ystod mor eang â phosibl o ddisgyblion, mae'r fron cyw iâr o safon uchel wedi'i thorri'n giwbiau, y paprica a'r powdr cyri i gyd yn cyfrannu’n sylweddol at gynnwys haearn a sinc y pryd hwn. Fel bonws, mae winwns, bricyll a phupur cymysg yn y saws cartref, gan gynyddu’r ffrwythau a’r llysiau.  
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Safonau Gwarant Fferm y DU – mae ein stribedi cyw iâr wedi cael nod Sicrwydd Tractor Coch y DU, felly maen nhw’n cael eu cynhyrchu i safonau sydd wedi eu harolygu’n annibynnol sy’n gysylltiedig â’r ffordd y mae’r ieir yn cael eu trin, diogelwch bwyd a’r gallu i olrhain bwyd. Mae hefyd yn golygu ein bod yn cefnogi ffermwyr y DU sy’n wynebu cyfnod heriol. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 23/10/2025 
 Nôl i’r Brig