Bolognese Quorn a llysiau gyda salad a bara garlleg
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
"Blasus iawn!" Alfie, Ysgol Gynradd Mair a’r Angylion  
Dewis Ein Dietegydd 
"Rydyn ni’n gwrando ar ein disgyblion bob tro. Ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau’r opsiwn o ddewis pryd llysieuol bob dydd, er nad ydyn nhw efallai eisiau dilyn bwydlen sy’n llysieuol i gyd. Felly pam Bolognese Quorn a llysiau? Mae llai o fraster dirlawn mewn Quorn na chig eidion, mae’n dda i iechyd y galon a hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer protein a ffibr. Mae llysiau'n gyfoeth o fitaminau a mwynau, gan gynnwys haearn, ac felly'n ychwanegiad gwych at y pryd. Ac mae'r pasta yn darparu carbohydradau i'w rhyddhau'n araf, er mwyn cynnal disgyblion trwy brynhawn o ddysgu. Rydyn ni hefyd yn annog salad bob tro fel ychwanegiad maethlon." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Llai o Allyriadau Carbon - mae'r opsiwn llysieuol hwn â llai na 1/4 allyriadau carbon y Bolognese arall sydd ar y fwydlen heddiw ac felly’n ddewis gwych i'r rheiny sydd eisiau gwneud newidiadau bach ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 
 Nôl i’r Brig