Pasta Bolognese cartref gyda bara garlleg a salad
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
"Hyfryd ac yn llanw fy mol " Angelica, Nant Celyn 
"Neis iawn a blasus " Amy, Nant Celyn 
"Rwy’n hoffi hwn siwd gymaint!" Myla, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim  
"Rwy’n hoffi hwn yn fawr iawn!" Theo, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim 
Dewis Ein Dietegydd 
"Mae ein pasta Bolognese cartref wedi'i wneud gyda briwgig cig eidion a briwgig Quorn, a gyda’r bara garlleg mae’n gyfraniad gwych at yr haearn a’r sinc yn y diet. Yn ogystal, mae'r topin caws Cheddar wedi'i doddi yn cyfrannu’n sylweddol at gynnwys calsiwm y pryd. Gan ein bod yn ei wneud ein hun, gallwn warantu bod y pryd hwn yn flasus a bod dim byd cas wedi’i guddio ynddo. Rydyn ni’n ei weini gyda salad tymhorol, gan annog ein disgyblion bob tro i fwyta eu 5 y dydd!" 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Safonau Gwarant Fferm y DU – prif gynhwysyn y pryd hwn yw briwgig cig eidion – ac rydyn ni’n defnyddio Briwgig Cig Eidion Tractor Coch y DU o ansawdd uchel, a dim byd arall. Trwy wneud hyn rydyn ni’n cefnogi ffermwyr y DU ac yn sicrhau ein bod yn dawel ein meddwl gan wybod ei fod wedi cael ei gynhyrchu i safonau sydd wedi eu harolygu’n annibynnol sy’n gysylltiedig â thrin anifeiliaid, diogelwch bwyd a’r gallu i olrhain bwyd. 
Llai o Allyriadau Carbon – Rydyn ni’n gwybod bod briwgig cig eidion yn uchel o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr (tua 32.13 Co2e). Felly, rydyn ni wedi newid ein rysáit ychydig bach ac wedi defnyddio briwgig Quorn yn lle 40% o'r briwgig cig eidion gydag ôl troed carbon o 1.29 Co2e - gan leihau'r allyriadau carbon yn y rysáit hon 39% gydag un newid syml fel hwn. 
Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – mae ein caws Cheddar yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 23/10/2025 
 Nôl i’r Brig