Byrgyr llysieuol mewn rholen gyda sglodion a phys

Veggie burger in a bun served with chips and peas

Pam ddewison ni’r pryd hwn? 

Dewis Ein Disgyblion 

"Mae'r byrgyr llysieuol yn anhygoel a'r rholen yn flasus' Hunter, Ysgol Panteg 

Dewis Ein Dietegydd 

"Rydyn ni’n gwrando ar ein disgyblion bob tro. Ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau’r opsiwn o ddewis pryd llysieuol bob dydd, er nad ydyn nhw efallai eisiau dilyn bwydlen sy’n llysieuol i gyd. 

Mae'r opsiwn llysieuol hwn wedi'i wneud gyda ffacbys, moron, winwns a shibwns ac mae'n llawn blas a daioni, ac yn isel mewn braster a braster dirlawn. Wrth gwrs, mae ein sglodion yn cael eu pobi yn y ffwrn i gyfyngu ar y braster a'r braster dirlawn a dim ond ar ddydd Gwener fyddwn ni'n eu gweini. Mae’r rholiau bara, sydd wedi eu gwneud o flawd gwyn (a'u hatgyfnerthu gydag haearn yn y DU) yn ddewis traddodiadol da i fynd gyda'r pryd. Rydyn ni'n annog disgyblion i fwyta mwy o lysiau, ac mae'r pys gyda'r pryd hwn yn cyfrannu at eu 5 y dydd ac yn ffynhonnell dda ar gyfer haearn hefyd." 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Mwy o Gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni - mae ein rholiau bara wedi eu cynhyrchu yng Nghymru, gan gefnogi ein heconomi leol a'n swyddi a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon