Peli Quorn mewn grefi gyda thato potsh, brocoli, moron, ffa gwyrdd a grefi
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
"Rwy'n eu caru nhw, gallwn i eu bwyta drwy'r dydd!" Olivia, Nant Celyn 
"Roeddwn i wrth fy modd â'r rhain oherwydd roedden nhw'n grensiog" Mason, Nant Celyn 
"Rwy'n dwlu ar flas rhain!" Sophie, Woodlands 
Dewis Ein Dietegydd 
"Mae'r peli cig hyn yn cael eu paratoi gyda briwgig Quorn. Mae Quorn yn is mewn braster dirlawn na chig eidion ac mae'n dda i iechyd y galon ac mae hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer protein, haearn a sinc. Er bod carbohydradau yn cael sylw negyddol yn y wasg, mae eu hangen arnom i ryddhau egni yn araf, ac i helpu ein disgyblion i gadw ffocws trwy gydol y dydd, a dyna pam rydym yn ychwanegu’r tato potsh. Ac, yn ôl yr arfer, rydyn ni'n cynnig dewis da o lysiau sy'n helpu ein disgyblion i gyrraedd eu targed o 5 y dydd." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Llai o Allyriadau Carbon - mae briwgig Quorn yn lleihau'r allyriadau carbon yn y pryd hwn tua 20x o'i gymharu â briwgig cig eidion, ac mae hynny'n enfawr! 
 Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 
 Nôl i’r Brig