Ffiled Quorn a stwffin (fe), gyda thato rhost sych a thato wedi'u berwi, llysiau tymhorol a grefi

Quorn fillet with roast and boiled potatoes, selection of vegetables and gravy

Pam ddewison ni’r pryd hwn? 

Dewis Ein Disgyblion 

"Roedd yn neis iawn, mwy o flas na chyw iâr go iawn" Tyreece, Ysgol Gynradd Garnteg 

Dewis Ein Dietegydd 

"Rydyn ni’n gwrando ar ein disgyblion bob tro. Ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau’r opsiwn o ddewis pryd llysieuol bob dydd, er nad ydyn nhw efallai eisiau dilyn bwydlen sy’n llysieuol i gyd. Ac mae'r Ffiledau Quorn llysieuol hyn yn isel mewn braster dirlawn, yn uchel mewn protein ac yn ffynhonnell wych ar gyfer ffibr. Rydyn ni'n rhoi amrywiaeth o lysiau i'n cogyddion ddewis ohonynt (byth llai na dau), ac mae disgyblion yn cael cynnig tato rhost a thato wedi’u berwi. Mae ein tato rhost wedi'u rhostio'n sych yn y ffwrn felly dydyn ni ddim yn ychwanegu unrhyw fraster ond maen nhw'n dal i fod yn ffefryn pendant ymhlith ein disgyblion." 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Llai o allyriadau carbon – mae Prifysgol Caeredin wedi dadansoddi allyriadau carbon yr holl ddewisiadau ar ein bwydlenni. Mae'r cinio ffiled Quorn hwn yn gyfrifol am ychydig o dan 1/3 o allyriadau'r opsiwn cinio lwyn porc. Dewis gwych i'r rheiny sydd eisiau gwneud newidiadau bach tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy! 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon