Ci poeth gyda sglodion, pys neu ffa pob

Hotdog served with chips and peas

Pam ddewison ni’r pryd hwn? 

Dewis Ein Disgyblion 

"Iym Iym!" Matthew, Henllys 

"Hollol anhygoel" Noah, Henllys 

"10 seren oherwydd mae’n dda" Amelia, Nant Celyn 

"Rwy’n caru hwn siwd gymaint ac mae’r cogydd yn anhygoel" Esther, Ysgol Gynradd Mair a’r Angylion 

"Mae’n fendigedig, 10 allan o 10!" Riley, Ysgol Gynradd Ffordd Blenheim  

"Oherwydd rwy’n hoffi sut mae Kely yn gwneud nhw" Harry, Ysgol Gynradd Padre Pio  

Dewis Ein Dietegydd 

"Fe wnaethon ni ddewis ein selsig yn ofalus i sicrhau dewis iachach wedi'i greu’n arbennig i’r ysgolion, gyda llai o fraster a halen. Wedi dweud hynny, rydyn ni’n sylweddoli bod selsig yn gynnyrch cig (yn hytrach na thoriad o gig) ac felly ei fod yn fwyd wedi'i brosesu, a dylai pob un ohonom fwyta llai o gig wedi'i brosesu. Rydyn ni'n poeni – fe welwch chi na fydd gennym fwy na dau gynnyrch cig ar ein bwydlen mewn wythnos. Wrth gwrs, mae ein sglodion yn cael eu pobi yn y ffwrn i gyfyngu ar y braster a’r braster dirlawn. Mae ein rholiau tenau wedi'u gwneud â blawd gwyn (wedi'i atgyfnerthu â haearn yn y DU) ac felly mae’n ddewis traddodiadol da ar gyfer y pryd. Rydyn ni’n annog disgyblion i fwyta mwy o lysiau, ac unwaith eto daw’r pryd hwn gyda dau opsiwn llysiau." 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – mae ein selsig a’n rholiau bara yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 

Diwygiwyd Diwethaf: 23/10/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon