Peli cig porc a moron mewn grefi gyda thato potsh, brocoli, moron, ffa gwyrdd a grefi

Pork and carrot meatballs in gravy served with mashed potato, broccoli, carrots, green beans and gravy

Pam ddewison ni’r pryd hwn? 

Dewis Ein Disgyblion 

"Rydw i wedi trio’r peli cig ac maen nhw’n anhygoel" Seb, Ysgol Panteg 

"Maen nhw’n lysh, dyma fy hoff ginio ysgol" Kallyanna, Ysgol Panteg 

"Arallfydol, roedden nhw’n lysh" Toby, Ysgol Panteg 

"Maen nhw’n dda dros ben. Y peli cig gorau rydw i wedi eu cael" Oscar, Ysgol Panteg 

"Maen nhw’n dda iawn, iawn, iawn. Rwy’n eu caru nhw " Isabelle, Ysgol Panteg 

"Bendigedig a 1000 bawd i fyny!" Thomas, Dewi Sant 

Dewis Ein Dietegydd 

"Mae'r peli cig hyn, wedi'u gwneud gyda phorc a moron, yn ffynhonnell dda ar gyfer protein, haearn a sinc. Er bod carbohydradau yn aml yn cael sylw negyddol yn y wasg, mae eu hangen arnom i gael egni sy’n rhyddhau’n araf ac mae nhw’n helpu ein disgyblion i gadw ffocws trwy gydol y dydd, ac felly rydyn ni wedi ychwanegu tato potsh. A, fel bob tro, dewis da o lysiau sy'n helpu ein disgyblion i gyrraedd eu targed o 5 y dydd." 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Llai o allyriadau carbon – mae Prifysgol Caeredin wedi cyfrifo dwysedd carbon yr holl ddewisiadau ar ein bwydlenni. Y peli cig eidion a oedd ar ein bwydlen flaenorol oedd y rysáit â’r mwyaf o allyriadau carbon. Trwy newid i beli cig porc a moron, mae allyriadau’r pryd wedi lleihau 70%.  

Safonau Gwarant Fferm y DU – mae’r peli cig porc a moron hyn yn cael eu paratoi gyda phorc Tractor Coch y DU sy’n cael ei gynhyrchu i safonau sydd wedi eu harolygu’n annibynnol sy’n gysylltiedig â thrin anifeiliaid, diogelwch bwyd a’r gallu i olrhain bwyd. Mae hefyd yn golygu ein bod yn cefnogi ffermwyr y DU sy’n wynebu cyfnod heriol. 

Diwygiwyd Diwethaf: 24/10/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon