Quorn barbeciw cartref gyda reis, trionglau tortila a salad

Homemade BBQ Quorn served with rice, tortilla chips and salad

NEWYDD AR GYFER 2025!! Pam ddewison ni’r pryd hwn? 

Dewis Ein Disgyblion 

"Hollol ANHYGOEL! Mae’r ddau’n blasu’n LYSH " Ruby, Ysgol Gynradd Ponthir  

"Maen nhw’n mynd yn wych gyda’i gilydd ac yn blasu’n anhygoel " Lauren, Ysgol Gynradd Ponthir  

"Mae’n dda, yn hyfryd ac yn fendigedig " Maila, Ysgol Gynradd Penygarn  

"Roedd yn wych, rwy’n dwlu ar y pryd yma " Harley, Ysgol Gynradd Penygarn  

"Bendigedig" Florence, Ysgol Panteg 

Dewis Ein Dietegydd 

"Rydyn ni’n gwrando ar ein disgyblion bob tro. Ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau’r opsiwn o ddewis pryd llysieuol bob dydd, er nad ydyn nhw efallai eisiau dilyn bwydlen sy’n llysieuol i gyd. Felly pam Quorn Barbeciw? Mae llai o fraster dirlawn mewn Quorn na chig eidion, mae’n dda i iechyd y galon a hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer protein a ffibr. Mae llysiau, ac yn yr achos hwn tomatos, pupurau a winwns, yn gyfoeth o fitaminau a mwynau, gan gynnwys haearn, ac yn ychwanegiad gwych at y pryd. Mae reis yn rhyddhau egni yn araf er mwyn cynnal disgyblion ar gyfer prynhawn o ddysgu. Ac wrth i ni anelu bob tro i gyrraedd y targed o 5 y dydd hwnnw, rydyn ni’n annog dogn o salad fel ychwanegiad maethlon." 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Llai o allyriadau carbon – mae briwgig Quorn yn lleihau’r allyriadau carbon yn y pryd tua 20 gwaith o gymharu â briwgig cig eidion, ac mae hynny’n anferth! 

Diwygiwyd Diwethaf: 23/10/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon