Cig eidion barbeciw cartref gyda reis, trionglau tortila a salad
 
NEWYDD AR GYFER 2025!! Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
"Hollol ANHYGOEL! Mae’r ddau’n blasu’n LYSH " Ruby, Ysgol Gynradd Ponthir  
"Maen nhw’n mynd yn wych gyda’i gilydd ac yn blasu’n anhygoel " Lauren, Ysgol Gynradd Ponthir  
"Mae’n dda, yn hyfryd ac yn fendigedig " Maila, Ysgol Gynradd Penygarn  
"Roedd yn wych, rwy’n dwlu ar y pryd yma " Harley, Ysgol Gynradd Penygarn  
"Bendigedig" Florence, Ysgol Panteg 
Dewis Ein Dietegydd 
"A wyddech chi fod cysylltiad cryf rhwng haearn isel a hwyliau gwael a thrafferth canolbwyntio? Credir hefyd y gallai fod cysylltiad rhwng sinc isel a thrafferth cysgu a chanolbwyntio. Mae ein cig eidion barbeciw cartref wedi'i wneud gyda briwgig cig eidion a briwgig Quorn. Mae’r tomatos, y pupurau a’r winwns hefyd yn cael eu hychwanegu at y saws hyfryd blas barbeciw. Gyda’r trionglau tortila mae’r dewis hwn yn sgorio’n uchel iawn ar gyfer y maetholion haearn a sinc. Mae’r reis yn rhoi egni sy’n rhyddhau’n araf i gynnal disgyblion ar gyfer prynhawn o ddysgu. Ac wrth i ni anelu bob tro i gyrraedd y targed o 5 y dydd hwnnw, rydyn ni’n annog dogn o salad fel ychwanegiad maethlon." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Safonau Gwarant Fferm y DU – prif gynhwysyn y pryd hwn yw briwgig cig eidion – ac rydyn ni’n defnyddio Briwgig Cig Eidion Tractor Coch y DU o ansawdd uchel, a dim byd arall, gan gefnogi ffermwyr y DU a sicrhau ein bod yn dawel ein meddwl gan wybod ei fod wedi cael ei gynhyrchu i safonau sydd wedi eu harolygu’n annibynnol sy’n gysylltiedig â thrin anifeiliaid, diogelwch bwyd a’r gallu i olrhain bwyd. 
Llai o Allyriadau Carbon – Rydyn ni’n gwybod bod briwgig cig eidion yn uchel o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr, felly, rydyn ni wedi newid ein rysáit ychydig bach ac wedi defnyddio briwgig Quorn yn lle 40% o'r briwgig cig eidion gan leihau'r allyriadau carbon yn y rysáit hon 39% gydag un newid syml fel hwn. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 23/10/2025 
 Nôl i’r Brig