Cyw iâr wedi'i rostio gyda stwffin, tato rhost sych a thato wedi'u berwi, dewis o lysiau a grefi

Pam ddewison ni’r pryd hwn? 

Dewis Ein Disgyblion 

"Da iawn, 10 allan o 10" Isaac, Dewi Sant 

"Rwy'n caru cyw iâr" Harry, Woodlands 

"Iymi" Leo, Woodlands 

"Blasu'n neis iawn" Jake, Woodlands 

Dewis Ein Dietegydd 

"Mae ein cinio cyw iâr a stwffin yn ffynhonnell dda ar gyfer protein o ansawdd uchel sydd â braster isel a braster dirlawn isel, yn ogystal â haearn a sinc. Rydyn ni'n rhoi amrywiaeth o lysiau i'n cogyddion ddewis ohonynt (byth llai na dau), ac mae disgyblion yn cael cynnig tato rhost a thato wedi’u berwi. Mae ein tato rhost wedi'u rhostio'n sych yn y ffwrn felly dydyn ni ddim yn ychwanegu unrhyw fraster ond maen nhw'n dal i fod yn ffefryn pendant ymhlith ein disgyblion." 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Safonau Gwarant Fferm y DU – mae ein ffiledi cyw iâr wedi cael nod Sicrwydd Tractor Coch y DU, felly maen nhw’n cael eu cynhyrchu i safonau sydd wedi eu harolygu’n annibynnol sy’n gysylltiedig â’r ffordd y mae’r ieir yn cael eu trin, diogelwch bwyd a’r gallu i olrhain bwyd. Mae hefyd yn golygu ein bod yn cefnogi ffermwyr y DU sy’n wynebu cyfnod heriol. 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon