Tato pob â thiwna a chorn melys

Tuna and sweetcorn filled jackets

Pam ddewison ni’r pryd hwn? 

Dewis Ein Disgyblion 

Ydych chi'n ddisgybl sy'n blasu’r pryd hwn am y tro cyntaf? Rydyn ni eisiau eich adborth. Rhowch wybod i'r cogydd yn eich ysgol a/neu anfonwch neges trwy e-bost i   louise.gillam@torfaen.gov.uk. Mae eich llais yn bwysig! 

Dewis Ein Dietegydd 

"Rydyn ni wrth ein bodd â thaten bob yn Nhorfaen ac yn gadael y croen ymlaen i gael y mwyaf o’r ffibr. Mae tiwna yn ddewis poblogaidd ac argymhellir ein bod ni'n bwyta 2 ddogn o bysgod yr wythnos, un ohonynt yn bysgodyn olewog. Er nad oes digon o Omega 3 mewn tiwna iddo gael ei ystyried yn bysgodyn olewog, mae'n dal i fod yn ffynhonnell Omega 3 yn ogystal â Fitamin D a haearn. Rydyn ni'n meddwl am iechyd calonnau ein disgyblion ac felly'n sicrhau bod y llenwad maethlon hwn yn cael ei gymysgu â mayonnaise â llai o fraster yn unig yn ein hysgolion." 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Mwy o Gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni - mae ein tatws pob yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru, ac felly'n cefnogi ein heconomi leol a'n swyddi ac yn lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon