Lwyn o borc gyda thato rhost a thato wedi'u berwi, dewis o lysiau a grefi

Pork loin served with roast and boiled potatoes, veg selection and gravy

Pam ddewison ni'r pryd hwn? 

NEWYDD AR GYFER 2025!!!! Ydych chi'n ddisgybl sy'n blasu’r pryd hwn am y tro cyntaf? Rydyn ni eisiau eich adborth. Rhowch wybod i'r cogydd yn eich ysgol, neu anfonwch neges trwy e-bost i louise.gillam@torfaen.gov.uk. Mae eich llais yn bwysig! 

Dewis Ein Dietegydd 

"Mae ein porc rhost yn ffynhonnell dda ar gyer protein o ansawdd da, a dewis o fitaminau a mwynau hefyd, gan gynnwys haearn, sinc a fitaminau B. Rydyn ni'n rhoi amrywiaeth o lysiau i'n cogyddion ddewis ohonynt (byth llai na dau), ac mae disgyblion yn cael cynnig tato rhost a thato wedi’u berwi. Mae ein tato rhost wedi'u rhostio'n sych yn y ffwrn felly dydyn ni ddim yn ychwanegu unrhyw fraster, ond maen nhw'n dal i fod yn ffefryn pendant ymhlith ein disgyblion." 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Safonau Gwarant Fferm y DU – mae ein porc rhost yn borc â sicrwydd Tractor Coch y DU sy’n cael ei gynhyrchu i safonau sydd wedi eu harolygu’n annibynnol sy’n gysylltiedig â thrin anifeiliaid, diogelwch bwyd a’r gallu i olrhain bwyd. Mae hefyd yn golygu ein bod yn cefnogi ffermwyr y DU sy’n wynebu cyfnod heriol. 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon