Selsig Morgannwg (f) gyda sgwariau tatws â pherlysiau, ffa pob a bara a thaeniad
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
Ydych chi'n ddisgybl sy'n blasu’r pryd hwn am y tro cyntaf? Rydyn ni eisiau eich adborth. Rhowch wybod i'r cogydd, neu anfonwch neges trwy e-bost i louise.gillam@torfaen.gov.uk. Mae eich llais yn bwysig! 
Dewis Ein Dietegydd 
"Rydyn ni’n gwrando ar ein disgyblion bob tro. Ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau’r opsiwn o ddewis pryd llysieuol bob dydd, er nad ydyn nhw efallai eisiau dilyn bwydlen sy’n llysieuol i gyd.  
Mae’r selsigen hon wedi'i gwneud â winwns, cennin, caws Cheddar aeddfed a thato ac mae’n un o ffefrynnau ein disgyblion. Mae’r llysiau cudd yn ffynhonnell ar gyfer calsiwm, felly mae’n ddewis da. Mae ein sgwariau tato â pherlysiau yn cael eu pobi yn y ffwrn ar y safle i gyfyngu ar y braster a’r braster dirlawn. Yn ôl yr arfer, mae ein ffa pob yn rhai sy’n isel mewn halen a siwgr." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – mae ein bara wedi ei gynhyrchu yng Nghymru, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 
Llai o allyriadau carbon – Mae Prifysgol Caeredin wedi cyfrifo dwysedd carbon yr holl ddewisiadau ar ein bwydlenni. Mae dewis selsig Morgannwg yn hytrach na selsig porc yn lleihau ôl troed carbon y pryd tua 75%. Dewis gwych i'r rheiny sydd eisiau gwneud newidiadau bach tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 23/10/2025 
 Nôl i’r Brig