Lasagne cartref gyda bara garlleg a salad
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
"Dyma’r pryd gorau oherwydd y blas, a dw i’n gyffrous bob tro rydyn ni’n cael lasagne"  Lowri, Ysgol Panteg 
"Mae’r caws yn hyfryd ac yn hufennog" Florence, Ysgol Panteg 
"Mae’n anhygoel ac mae’n llawn blas" Seren, Ysgol Panteg 
"Mae’n dda, ac mae ganddo lawer o flasau gwahanol sy’n blasu’n dda gyda’i gilydd" Jacob Ysgol Panteg 
Dewis Ein Dietegydd 
A wyddech chi fod cysylltiad cryf rhwng haearn isel a hwyliau gwael a thrafferth canolbwyntio? Credir hefyd y gallai fod cysylltiad rhwng sinc isel a thrafferth cysgu a chanolbwyntio.  
Mae ein lasagne cartref wedi'i wneud â briwgig cig eidion a briwgig Quorn. Ochr yn ochr â’r bara garlleg mae’r dewis hwn yn sgorio’n uchel ar gyfer y maetholion haearn a sinc. Mae hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer calsiwm (llaeth hanner-sgim yn y saws gwyn a’r topin o gaws). Ac wrth i ni annog ein disgyblion i gyrraedd y targed o 5 y dydd, rydyn ni’n annog dogn o lysiau neu salad fel ychwanegiad maethlon bob tro." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Safonau Gwarant Fferm y DU – prif gynhwysyn unrhyw lasagne yw briwgig cig eidion – ac rydyn ni’n defnyddio Briwgig Cig Eidion Tractor Coch y DU o ansawdd uchel, a dim byd arall. Trwy wneud hyn, rydyn ni’n cefnogi ffermwyr y DU ac yn sicrhau ein bod yn dawel ein meddwl gan wybod ei fod wedi cael ei gynhyrchu i safonau sydd wedi eu harolygu’n annibynnol sy’n gysylltiedig â thrin anifeiliaid, diogelwch bwyd a’r gallu i olrhain bwyd. 
Llai o Allyriadau Carbon – Rydyn ni’n gwybod bod briwgig cig eidion yn uchel o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr (tua 32.13 Co2e). Felly, rydyn ni wedi newid ein rysáit ychydig bach ac wedi defnyddio briwgig Quorn yn lle 40% o'r briwgig cig eidion gydag ôl troed carbon o 1.29 Co2e - gan leihau'r allyriadau carbon yn y rysáit hon 39% gydag un newid syml fel hwn. 
Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – mae ein llaeth hanner-sgim yn y saws gwyn a’n caws Cheddar yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 23/10/2025 
 Nôl i’r Brig