Cŵn poeth selsig Morgannwg gyda sglodion a ffa pob neu bys
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
Ydych chi'n ddisgybl sy'n blasu’r pryd hwn am y tro cyntaf? Rydyn ni eisiau eich adborth. Rhowch wybod i'r cogydd, neu anfonwch neges trwy e-bost i louise.gillam@torfaen.gov.uk. Mae eich llais yn bwysig! 
Dewis Ein Dietegydd 
"Rydyn ni’n gwrando ar ein disgyblion bob tro. Ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau’r opsiwn o ddewis pryd llysieuol bob dydd, er nad ydyn nhw efallai eisiau dilyn bwydlen sy’n llysieuol i gyd. Mae’r opsiwn llysieuol hwn wedi'i wneud â chaws Cheddar, tatws, winwns a chennin. Mae ar gael i bawb ac yn ddewis iach yn lle selsig traddodiadol sy'n gynnyrch cig wedi'i brosesu (ac rydym yn cael ein cynghori i fwyta llai o gig wedi’i brosesu). Mae ein sglodion, wrth gwrs, wedi'u pobi yn y ffwrn i gyfyngu ar y braster a’r braster dirlawn. Mae ein rholiau tenau wedi'u gwneud â blawd gwyn (sydd wedi'i atgyfnerthu â haearn yn y DU) ac yn ddewis traddodiadol da i fynd gyda’r selsig. Rydyn ni’n annog ein disgyblion i fwyta mwy o lysiau, ac unwaith eto’n cynnig dewis o ddau opsiwn llysiau ar yr ochr." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – mae ein rholiau bara wedi eu creu yng Nghymru, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 
Llai o allyriadau carbon – Mae Prifysgol Caeredin wedi cyfrifo dwysedd carbon yr holl ddewisiadau ar ein bwydlenni. Mae dewis selsig Morgannwg yn hytrach na selsig porc yn lleihau ôl troed carbon y pryd tua 75%. Dewis gwych i'r rheiny sydd eisiau gwneud newidiadau bach tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 22/10/2025 
 Nôl i’r Brig