Selsig porc a phwdin Swydd Efrog gyda thato rhost sych a thato wedi'u berwi, dewis o lysiau a grefi
 
Pam ddewison ni'r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
"Y pryd gorau erioed!" Ruby a Tilly-May, Ysgol Panteg 
"Y pryd gorau yn yr ysgol!" Emily, Ysgol Panteg 
"Bwyd anhygoel" Seren, Ysgol Panteg 
"Pam ddim bob dydd?!" Noa, Ysgol Panteg 
Dewis Ein Dietegydd 
"Fe wnaethon ni ddewis ein selsig yn ofalus i sicrhau dewis iachach wedi'i greu’n arbennig i’r ysgolion, gyda llai o fraster a halen. Wedi dweud hynny, rydyn ni’n sylweddoli bod selsig yn gynnyrch cig (yn hytrach na thoriad o gig) ac felly ei fod yn fwyd wedi'i brosesu, a dylai pob un ohonom fwyta llai o gig wedi'i brosesu. Rydyn ni'n poeni – fe welwch chi na fyddwn ni'n gweini cig wedi'i brosesu ar ein bwydlen ar fwy na dau ddiwrnod yr wythnos . Mae ein selsig a'n pwdin Swydd Efrog yn cyfrannu at lefelau haearn a sinc y pryd. Rydyn ni'n rhoi amrywiaeth o lysiau i'n cogyddion ddewis ohonynt (byth llai na dau), ac mae disgyblion yn cael cynnig tato rhost a thato wedi’u berwi. Mae ein tato rhost wedi'u rhostio'n sych yn y ffwrn felly dydyn ni ddim yn ychwanegu unrhyw fraster ond maen nhw'n dal i fod yn ffefryn pendant ymhlith ein disgyblion." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Mwy o gynnyrch Cymreig ar ein Bwydlenni – mae ein selsig yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru, gan gefnogi ein heconomi lleol a’n swyddi lleol a lleihau milltiroedd bwyd ar yr un pryd. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 
 Nôl i’r Brig