Nwdls llysiau gyda lapiad tortila (ll), pys neu salad cymysg
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
NEWYDD AR GYFER 2025!!!! Ydych chi'n ddisgybl sy'n blasu’r pryd hwn am y tro cyntaf? Rydyn ni eisiau eich adborth. Rhowch wybod i'r cogydd yn eich ysgol a/neu anfonwch neges trwy e-bost i louise.gillam@torfaen.gov.uk 
Dewis Ein Dietegydd 
"Mae hwn yn rysáit newydd sbon gyda nwdls, pupurau, corn melys a winwns mewn saws mêl a sinsir melys. Caiff ei weini gyda lapiad tortila i roi egni sy'n rhyddhau'n araf a dogn o bys neu salad cymysg ar yr ochr. Mae'n llawn llysiau ac yn ffordd wych a chyflym o gyrraedd y targed o 5 y dydd". 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Llai o allyriadau carbon – mae Prifysgol Caeredin wedi dadansoddi'r holl ddewisiadau ar ein bwydlenni ac o'r 46 opsiwn ar gyfer prif bryd ar y fwydlen hon, y dewis hwn yw'r  3ydd isaf o ran allyriadau. Dewis gwych i'r rheiny sydd eisiau gwneud newidiadau bach tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy! 
Llai o wastraff cegin - mae gennym system archebu ymlaen llaw ar waith ar gyfer y dewisiadau ar ein bwydlen, ac mae disgyblion yn dewis bob bore. Mae hyn yn sicrhau cyn lleied o wastraff cegin â phosibl. 
Llai o wastraff ar blatiau - rydyn ni'n ymgysylltu'n rheolaidd â'n disgyblion wrth gynllunio bwydlenni fel ein ni'n gwybod pa brydau sy'n boblogaidd, gan sicrhau ein bod yn cadw gwastraff ar blatiau i leiafswm. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 
 Nôl i’r Brig