Nygets llysiau (fe) gyda sgwriau tatws â pherlysiau, pys neu ffa pob

Vegetable nuggets (Ve) served with herby diced potatoes and baked beans

Pam ddewison ni’r pryd hwn? 

Dewis Ein Disgyblion 

"Roedden nhw'n arbennig o dda, rwy'n eu hoffi nhw'n fawr!" Holly, Nant Celyn 

Dewis Ein Dietegydd 

"Rydyn ni’n gwrando ar ein disgyblion bob tro. Ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau’r opsiwn o ddewis pryd llysieuol bob dydd, er nad ydyn nhw efallai eisiau dilyn bwydlen sy’n llysieuol i gyd. Mae'r nygets llysieuol yn gyfuniad o foron, corn melys, ffa gwyrdd, blodfresych a thato mewn briwsion bara crensiog. Maen nhw'n isel mewn braster dirlawn ac yn ffynhonnell dda ar gyfer protein a ffibr, felly pam na fyddech chi'n eu hoffi? Ac rydyn ni'n annog ein disgyblion i fwyta llysiau ar yr ochr bob tro hefyd mewn ymdrech i gyrraedd ein targed o 5 y dydd." 

Prydau Ysgol Cynaliadwy 

Llai o allyriadau carbon gan y Gwasanaeth – mae Prifysgol Caeredin wedi cyfrifo allyriadau carbon ein holl ryseitiau. Ôl troed carbon y cynnyrch hwn yw'r isaf o'r 46 prif bryd ar y fwydlen hon. Dewis gwych i'r rheiny sydd eisiau gwneud newidiadau bach ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy! 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/10/2025 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon