Jeli ffrwythau a bisgïen
 
Pam ddewison ni’r pryd hwn? 
Dewis Ein Disgyblion 
"Y jeli gorau yn y byd " Lowri, Ysgol Panteg 
"Mae’n dda, mae’n rhaid i ni ei gadw! Mae e’ mor ffein!!" Eva, Penygarn 
"Y jeli yma yw’r jeli gorau yn y byd i gyd " Ava, Ysgol Panteg 
"Y peth gorau" Tilly, Ysgol Panteg 
"Mae’n lysh!! Talia, Ysgol Panteg 
Dewis Ein Dietegydd 
"Er ei fod yn ffefryn ymhlith y plant (a'n dietegydd!), rydyn ni’n gwybod yn iawn nad oes llawer iawn o faeth mewn jeli. Felly, rydyn ni wedi uwchraddio'r dewis hwn trwy ychwanegu dogn plentyn o ffrwythau at ein dognau jeli, gan gyfrannu at un o 5 y dydd eich plentyn. Mae ychwanegu'r bisgïen yn cynyddu cynnwys carb y pwdin hwn er mwyn rhyddhau egni’n araf trwy gydol y prynhawn. Ac rydyn ni’n eu pobi ein hunain sy’n golygu ein bod yn gallu ychwanegu ceirch at ein rysáit, sy’n lleihau colesterol yn y gwaed ac yn gwella iechyd y perfeddion." 
Prydau Ysgol Cynaliadwy 
Llai o Wastraff Cegin – Rydyn ni’n gweithredu system archebu ymlaen llaw ar gyfer dewisiadau ar y fwydlen, ac mae disgyblion yn dewis eu pryd bob bore. Mae hyn yn lleihau ein gwastraff cegin cymaint â phosibl. 
Llai o Wastraff ar Blatiau – Rydyn ni’n ymgysylltu'n rheolaidd â'n disgyblion wrth gynllunio bwydlenni fel ein bod yn gwybod pa brydau sy'n boblogaidd, i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o wastraff ar blatiau. 
 Diwygiwyd Diwethaf: 22/10/2025 
 Nôl i’r Brig