Selsig Porc wedi eu gweini gyda thatws stwnsh a ffa pob

Sausages with mashed potato and beans

Pam ddewison ni'r pryd yma

Dewis Ein Disgyblion

"Hyfryd a blasus" Riley, Blaenafon

"Roedd y tato potsh yn hyfryd a’r selsig hefyd" Amelia, Padre Pio

"Mae hwn yn bryd blasus" Lucas, Blaenafon

"Da iawn" Lilly, Ponthir

Dewis Ein Dietegydd

"Mae selsig yn dal i fod yn ffefryn felly dewison ni ein selsig yn ofalus i fod yn ddewis iach sydd wedi eu creu'n arbennig ar gyfer ysgolion gyda braster a halen is. Wedi dweud hynny, rydym yn ymwybodol fod selsig, fel cynnyrch cig (yn hytrach na chig cyffredin) yn fwyd wedi'i brosesu, a dylem ni i gyd fod yn cyfyngu ar faint yr ydym yn bwyta ohonyn nhw. Rydyn ni’n cymryd gofal  – fyddwch chi ddim yn dod o hyd I unrhyw gig wedi’u brosesu ar fwy na 2 ddiwrnod ym mwydlen yr wythnos. Mae ffa pob yn ffefrynnau gyda’r disgyblion, ond maent hefyd yn cyfrannu at gynnwys haearn y pryd. Mae ein ffa pob yn isel mewn siwgr a halen."

Diwygiwyd Diwethaf: 04/09/2024 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon