Lasagne a Forno wedi ei weini gyda bara garlleg, llysiau neu salad
Pam wnaethon ni ddewis y pryd hwn
Dewis Ein Disgyblion
“Dyma fy newis i gan ei fod yn blasu’n dda pan fyddwch yn dipio’r bara garlleg yn y saws” Isabella, Garnteg
“Mae yna lawer o lysiau neis ynddo ac rwy’n hoffi’r saws - rwy’n dipio’r bara garlleg ynddo” Jonah, Garnteg
“Rwy’n hoffi’r caws ac rwy’n hoffi’r bara garlleg hefyd” Grace, Garnteg
Dewis Ein Dietegydd
“Oeddech chi’n gwybod bod cysylltiad cryf rhwng lefelau haearn isel a thymer a gallu isel i ganolbwyntio? Maen nhw’n dweud hefyd efallai bod cysylltiad rhwng lefelau sinc isel a diffyg gallu i ganolbwyntio a chysgu.
Mae ein Lasagne cartref wedi ei wneud o friwgig cig eidion a briwgig Quorn a gyda’r bara garlleg mae hwn yn sgorio’n uchel o ran haearn a sinc. Mae hefyd yn ffynhonnell dda o galsiwm (llaeth lled-sgim yn y saws gwyn a’r haenen o gaws ar y top). Byddwn bob amser yn annog llysiau neu salad i fynd gyda’r pryd hwn.”
Diwygiwyd Diwethaf: 03/09/2024
Nôl i’r Brig