Cyri cyw iâr wedi ei weini gyda reis llysiau sawrus, bara Naan
Pam ddewison ni'r pryd yma
Dewis Ein Disgyblion
"Ges i fy ngeni i fwyta cyri!" Isla, Henllys
"Mae’n anhygoel! Mae’r cyw iâr yn blasu’n dda!" Fiion, Garnteg
"Dyma fy hoff bryd i" Isabella, New Inn
Dewis Ein Dietegydd
"Tra bod sbeis ysgafn yn y dewis bwyd cartref yma er mwyn apelio at gynifer â phosibl, mae'r cyw iâr o ansawdd, paprica a phowdwr cyri oll yn cyfrannu'n sylweddol at gynnwys haearn a sinc y pryd hwn. Yn ychwanegol mae yna winwns, bricyll a phupur cymysg yn y saws cartref, gan gynyddu eto'r cynnwys ffrwythau a llysiau. Mae ein reis llysiau yn gymysgedd o reis brown (ffibr uchel) a reis gwyn, gyda phys, India corn, pupur, madarch a winwns i roi blas, sydd eto'n cyfrannu at 5-y-dydd eich plentyn."
Diwygiwyd Diwethaf: 03/09/2024
Nôl i’r Brig