Cacen lemon a hufen
Pam ddewison ni'r pryd yma
Dewis ein Disgyblion
“Wrth fy modd” Sofi, Ysgol Gynradd Dôl Werdd
“Mor flasus!” Jessica, Ysgol Gynradd Dôl Werdd
“Hyfryd!” Poppy, Ysgol Gynradd Dôl Werdd
Dewis Ein Dietegydd
"Mae’r deisen yn rysáit iachach yn arbennig i’n disgyblion, gyda llai o fraster a siwgr, ac wedi ei phobi gydag ychydig bach o lemwn gan roi ton fach o felyster ac yn cynnwys Fitamin C hefyd.
Poeni am galorïau, braster neu siwgr? Mae ein ryseitiau a bwydlenni wedi eu hystyried yn ofalus i sicrhau nad yw disgyblion yn cael gormod o galorïau, braster neu siwgr.
Rwy'n ymgymryd â dadansoddiad o faeth ein bwydlenni ysgolion cynradd cyn cyhoeddi er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd Safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cinio ysgol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynnwys, ar gyfartaledd, traean o anghenion maeth dyddiol disgyblion. Mae hyn yn cynnwys bodloni safonau ar gyfer mwyafswm o galorïau, braster, braster dirlawn a siwgr.”
Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2024
Nôl i’r Brig