Ffiled o eog swigod* dwbl wedi eu gweini gyda thatws stwnsh a ffa pob
* Ffiled eog wedi ei orchuddio â briwsion swigod blawd reis/india corn heb glwten
Pam ddewison ni'r pryd yma
Dewis Ein Dietegydd
"Mae pysgod fel eog sy'n llawn olew, yn llawn Omega 3. Mae Omega 3 yn dod o'r gangen o "frasterau iachach" sy'n hanfodol yn y diet, a gall helpu i amddiffyn y galon a'r pibellau gwaed rhag clefydau. Yn ogystal ag Omega 3, mae pysgod olewog yn ffynhonnell dda o Fitamin A a D a phrotein. Mae'n cael ei bobi mewn popty ar y safle i sicrhau nad oes unrhyw olew ychwanegol yn cael ei ychwanegu gan ein cogyddion pan fyddant yn ei baratoi.
Rydym yn deall efallai na fydd rhai plant yn gyfarwydd â blas pysgod olewog, felly rydym wedi dewis eog am fod ganddo flas mwy mwyn na physgod olewog eraill. Nid yw’r rhan fwyaf o blant yn ymwybodol bod y pysgodyn hwn yn wahanol i’r hyn y maen nhw wedi ei arfer ag ef. Ac am ei fod wedi’i orchuddio â swigod briwsion reis (tebyg i greision reis), ein gobaith yw y daw’n ffefryn i’r disgyblion yn y dyfodol. Hefyd, fel rhan o'n hymrwymiad i'n cyfrifoldebau amgylcheddol, rydym yn defnyddio eog sydd wedi'i ardystio gan MSC yn unig, felly’n caniatáu i ddisgyblion wledda gan wybod eu bod yn helpu i ddiogelu ein cefnforoedd, bywoliaeth a stoc pysgod y dyfodol."
Ydych chi'n ddisgybl cynradd sy’n rhoi cynnig ar y pryd newydd hwn am y tro cyntaf?
Rydym am glywed eich barn. Anfonwch eich adborth at louise.gillam@torfaen.gov.uk. Carem glywed eich sylwadau. Ydy’r pryd yn bryd buddugol neu a oes angen ei addasu?
Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2024
Nôl i’r Brig