Cŵn poeth gyda lletemau barbeciw a ffa pob

Cŵn poeth gyda lletemau barbeciw a ffa pob

Pam wnaethon ni ddewis hwn

Dewis ein Disgyblion

“Nid wyf yn hoffi unrhyw fara cŵn poeth ar wahân i fara cŵn poeth Garnteg. Nid wyf yn bwyta cŵn poeth unrhyw le arall, ddim hyd yn oed o’r barbeciw” Grace, Garnteg

"Mae’n rhoi blas da yn eich ceg” Ffion, Garnteg

Dewis ein Dietegydd

“Rydym yn dewis ein selsig yn ofalus, er mwyn cael dewis iachach yn benodol ar gyfer ysgolion gyda lefelau braster a halen is. Wedi dweud hynny, rydym yn ymwybodol bod selsig, fel cynnyrch cig (yn wahanol i ddarnau uniongyrchol o gig) yn fwyd wedi ei brosesu, ac y dylem oll fod yn lleihau faint o gig wedi’i brosesu rydym yn ei fwyta. Felly, rydym yn cydymffurfio’n ofalus gyda’r rheoliadau Bwyta’n Iach yn ein hysgolion ac yn cyfyngu faint o’r pethau hyn sydd ar y fwydlen i ddim mwy na dwywaith yr wythnos. Wrth gwrs, mae ein lletemau tatws yn cael eu pobi yn y ffwrn er mwyn cyfyngu ar y braster a’r braster dirlawn ac rydyn ni’n ychwanegu sesnin barbeciw ar gais ein disgyblion. Mae ffa pob yn un o ffefrynnau ein disgyblion a maen nhw hefyd yn cyfrannu at yr haearn sydd yn y pryd. Rydyn ni’n defnyddio ffa pob â llai o siwgr a halen bob tro. Mae ein rholiau hir, sydd wedi cael eu gwneud â blawd gwyn (gyda haearn ychwanegol yn y DU) yn ddewis da fel cyfwyd i fynd gyda’r pryd poblogaidd hwn."

Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2024 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon