Chilli Con Carne wedi ei weini gyda reis a phys, corn melys a brocoli
Pam ddewison ni'r pryd yma
Dewis Ein Disgyblion
“Dwlu arno!” Miley, Ysgol Gynradd Greenmeadow
“Wrth fy modd â hwn!” Sofi, Ysgol Gynradd Greenmeadow
Dewis Ein Dietegydd
"Mae nifer y plant sydd ddim yn cael digon o haearn neu sinc yn eu diet yn eithaf uchel. I rai plant, gallai bwyta mwy o fwydydd sy'n cynnwys y maetholion hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w hwyliau, eu hymddygiad a’u dysgu. Mae'r briwgig eidion sydd ag ychydig o sbeis yn ffynhonnell dda ar gyfer haearn a sinc. Mae llysiau ychwanegol yn y saws tsili a thomato, felly bydd hyd yn oed y rheiny sy'n amheus o’r cyfuniad o lysiau sy’n dod gyda’r pryd, yn cael rhywbeth bach ychwanegol. Rydym yn ceisio amrywio ein cyfwydydd carbohydrad, gan ddefnyddio reis wedi'i ferwi yma er mwyn rhyddhau egni'n araf i helpu'n disgyblion yn y prynhawn. Pam na fyddech chi’n hoffi’r pryd hwn?"
Diwygiwyd Diwethaf: 03/09/2024
Nôl i’r Brig