Chwyrlïad siocled gyda mandarinau a diod llaeth

Chwyrlïad siocled gyda mandarinau a diod llaeth

Pam ddewison ni'r pryd hwn?

Dewis Ein Disgyblion

“Buaswn i'n dewis hyn oherwydd rydw i'n hoff o fwyd ac yn hoff o siocled” Bethanie, Ysgol Llantarnam

“Oherwydd ei fod yn neis” Isabella, Ysgol Llantarnam

“Mae'n dda dros ben” Amy, Ysgol Crownbridge

“Hyfryd” Tyler, Ysgol Crownbridge

Dewis Ein Dietegydd

“Dyw ein hysgolion ddim yn cael cynnig losin, gan gynnwys bariau siocled, losin, bariau grawnfwyd a chreision. Ond, dyw hyn ddim yn ein rhwystro rhag ail-greu pwdin blas siocled ac oren braster-isel gan ddefnyddio cynhwysion sy'n cynnwys powdwr coco a sudd oren. Mae hyn yn ein galluogi i gynnig pwdin blasus sydd, ar ei ben ei hun, yn cynnig digon o Fitamin C ar gyfer anghenion dyddiol disgybl ysgol gynradd. Gyda dogn o fandarinau, mae’n gyfraniad gwych at y targed 5-y-dydd. Gweinir gyda gwydraid o laeth hanner-sgim sy’n cyfrannu’n sylweddol at y calsiwm sydd yn y pwdin hwn, felly mae maeth disgyblion yn paru’n hawdd gyda’r hyn sy’n boblogaidd gyda’r dewis hwn.”

Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2024 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon