Byrgyr cig eidion wedi ei weini gyda sglodion, ffa pob neu salad
Pam ddewison ni'r pryd yma
Dewis Ein Disgyblion
“Y pryd yma yw fy newis i oherwydd bod pawb yn ei hoffi. Hefyd, rwy'n credu ei fod yn drît i bawb” Honey, Ffordd Blenheim
“Rwy'n hoffi blas y cig eidion yn y canol ac mae'r sglodion yn flasus” Lola, Garnteg
“Rwy'n hoffi cig a bara felly, byrgyr” Rhodri, Padre Pio
Dewis Ein Dietegydd
“Mae ein byrgyrs yn ffynhonnell o haearn a sinc, gydag o leiaf 80% yn gig, ac maen nhw wedi eu pobi yn y ffwrn. Rydym yn dewis yn ofalus - yn unol â Safonau Llywodraeth Cymru, fe welwch chi nad oes gennym fwy na 2 gynnyrch cig ar ein bwydlen bob wythnos. Mae ein sglodion, wrth gwrs, yn cael eu pobi yn y ffwrn er mwyn lleihau’r braster a’r braster dirlawn. Mae ein rholiau, gyda blawd gwyn (pob un gyda haearn ychwanegol yn y DU) yn ddewis da o gyfwyd traddodiadol. Mae disgyblion yn cael eu hannog i fwyta mwy o lysiau, ac yma mae yna ddewis o ffa pob gyda llai o halen a siwgr, neu salad."
Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2024
Nôl i’r Brig