Arctic roll siocled a ffrwythau

Arctic roll siocled a ffrwythau

Pam ddewison ni'r pryd hwn

Dewis Ein Dietegydd

“BLAS NEWYDD!! Mae'r hufen iâ ei hun yn cynnwys ychydig bach o haearn, felly trwy addasu'r pwdin i fod yn Rôl Arctig (hufen iâ a haen o deisen ar y tu allan), rydym yn sicrhau ei fod yn cyfrannu mwy at ofynion haearn, sinc a chalsiwm. Mae yna ddogn o ffrwyth hefyd, ac felly mae’n cyfrif fel un o 5-y-dydd eich plentyn, a mae hwn yn rhywbeth i'w hoffi

Ydych chi’n poeni am y siocled? Mae pwdinau blas siocled yn ffefryn mawr gyda’n disgyblion ond, peidiwch â phoeni, dydyn ni ddim yn defnyddio siocled na melysion yn ein pwdinau. Rydyn ni’n defnyddio powdr coco â llai o fraster i roi blas siocled cyfoethog i’r pwdin.

Ydych chi'n poeni am galorïau, braster neu siwgr? Rwy’n mynd ati’n bersonol i ddadansoddi ein bwydlenni cynradd o ran maeth cyn eu cyhoeddi, er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni Safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer prydau ysgol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynnwys tua thraean o ofynion maeth dyddiol disgyblion, ar gyfartaledd. Mae hyn yn cynnwys cwrdd â’r safonau ar gyfer uchafswm calorïau, braster, braster dirlawn a siwgr.

Ydych chi'n ddisgybl ysgol gynradd sy'n rhoi tro ar y pryd yma am y tro cyntaf?

Rydyn ni am gael eich barn. Rhowch adborth i louise.gillam@torfaen.gov.uk. Bydden ni wrth ein bodd i glywed eich sylwadau. Ydy’r pryd hwn yn bryd llwyddiannus neu a oes angen gwaith arno o hyd?

Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2024 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon