Cacen betys siocled a chwstard
Pam ddewison ni'r pryd yma
Dewis Ein Disgyblion
"Sbwnj – mae'n lysh" Esma, Y Dafarn Newydd
Dewis Ein Dietegydd
"Efallai bydd rhai rhieni'n credu fod hyn yn ddewis rhyfedd i ddietegydd oherwydd ein bod ni'n cael ein cynghori i dorri bwydydd sy'n uchel mewn braster a siwgr. Mae'r rysáit yma'n ddewis dietegydd am nifer o resymau. Mae'r rysáit yma wedi ei greu i gynnwys llai o fraster a dim ond ychydig iawn o siwgr ychwanegol (mae siwgr mewn ffrwythau, sudd ffrwythau a llysiau'n naturiol). Mae ychwanegu rhywfaint bach o driog a phowdwr coco braster isel, ynghyd â betys coch, yn cyfrannu'n sylweddol at lefelau haearn yn y pryd hwn. Gydag orennau ffres, sudd oren a betys ffres, mae'r pwdin yma'n cynnwys Fitamin C hefyd.
Hefyd mae ein cwstard, gyda llaeth ffres, yn cyfrannu at anghenion calsiwm disgyblion (ar gyfer esgyrn a dannedd cryf) a sinc (ar gyfer twf iach ac imiwnedd iach)."
Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2024
Nôl i’r Brig