Pysgodyn gwyn mewn cytew wedi eu gweini gyda sglodion, pys a bara a thaeniad
Pam ddewison ni’r pryd hwn?
Dewis Ein Disgyblion
“Rwy’n hoffi’r pysgodyn oherwydd ei fod mor neis – pan mae’n mynd i lawr mae’n gwneud i mi deimlo’n dda.” Leah, Garnteg
“Mor flasus” Ffion, Garnteg
Dewis Ein Dietegydd
"Mae pysgod gwyn yn ffynhonnell dda o brotein o ansawdd uchel a sawl fitamin a mwyn gwahanol. Rydyn ni’n defnyddio dognau ffiled o bysgod gwyn o ansawdd uchel ac o ffynonellau cyfrifol yn unig (Cyfradd Cynaliadwyedd Marine Conservation Society o 2), ac ar yr achlysur hwn, mae’n cael ei weini gyda chytew crensiog. Mae ein pysgod, a’n sglodion, yn cael eu pobi mewn ffwrn ar y safle i sicrhau nad oes unrhyw olew ychwanegol yn cael ei ychwanegu gan ein cogyddion pan fyddant yn paratoi’r pryd hwn, ac felly mae’n cyfyngu ar y braster a'r braster dirlawn yn y pryd hwn. Caiff ei weini gyda phys, sy’n gyfwyd traddodiadol sy'n cyfrannu at ein 5-y-dydd, ac felly mae’r rhain hefyd yn ffynhonnell dda o haearn. "
Diwygiwyd Diwethaf: 03/09/2024
Nôl i’r Brig