Peli cig eidion mewn saws tomato wedi eu gweini gyda thatws deisiog, llysiau tymhorol a bara garlleg
Pam ddewison ni’r pryd hwn?
Dewis Ein Disgyblion
“Rwy’n dewis hwn oherwydd bod y peli cig wedi eu coginio’n dda ac yn flasus iawn” Lucas, Ysgol Gynradd Llanyrafon
“Hwn yw fy hoff bryd bwyd” Egan, Ysgol Gynradd Bryn Onnen
“Dyma fy newis i oherwydd ei fod yn blasu mor dda” Ella, Ysgol Gynradd George Street
Dewis ein Dietegydd
“Ffefryn pendant. Mae’r peli cig hyn yn cael eu paratoi gyda Chig Eidion Cynllun Tractor Coch Prydain ac, felly, maen nhw’n ffynhonnell dda o brotein, haearn a sinc. Er bod carbohydradau, druans, yn cael enw drwg yn y wasg, mae angen carbohydradau arnom er mwyn rhyddhau egni’n araf ac i helpu ein disgyblion i gadw ffocws trwy gydol y dydd, a dyna pam rydyn ni’n ychwanegu sgwariau tatws a bara garlleg. Yn ôl yr arfer, mae’r pryd hwn yn cael ei weini gyda dim llai na 2 ddewis o lysiau. Ond i’r rheiny sy’n camu i ffwrdd wrth y llysiau, gallwch fod yn dawel eich meddwl oherwydd mae ein saws tomato cartref yn cynnwys llysiau cudd felly mae'n dal i gyfrannu at 5-y-dydd eich plentyn."
Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2024
Nôl i’r Brig