Browni Cyffug
Pam ddewison ni'r pryd yma
Dewis Ein Dietegydd
"Mae pwdinau blas siocled yn ffefryn mawr gyda’n disgyblion ond, peidiwch â phoeni, dydyn ni ddim yn defnyddio siocled na melysion yn ein pwdinau. Rydyn ni’n defnyddio powdr coco â llai o fraster i roi blas siocled cyfoethog i’r pwdin.
Ydych chi'n poeni am galorïau, braster neu siwgr? Rwy’n mynd ati’n bersonol i ddadansoddi ein bwydlenni cynradd o ran maeth cyn eu cyhoeddi, er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni Safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer prydau ysgol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynnwys tua thraean o ofynion maeth dyddiol disgyblion, ar gyfartaledd.. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod calorïau braster, braster dirlawn a siwgr o fewn lefelau derbyniol ar gyfer iechyd da."
Ydych chi'n ddisgybl mewn ysgol gynradd sy’n rhoi tro ar y pwdin hwn am y tro cyntaf?
Os felly, rhannwch eich adborth gyda ni trwy anfon neges e-bost i louise.gillam@torfaen.gov.uk. Rhowch wybod i ni os ydych chi am weld yr opsiwn hwn ar fwydlenni yn y dyfodol, neu rywbeth arall?
Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2024
Nôl i’r Brig