Cacen bysgod penfras ac eog wedi eu gweini gyda thatws stwnsh a ffa pob neu lysiau

Cacen bysgod penfras ac eog wedi eu gweini gyda thatws stwnsh a ffa pob neu lysiau

Pam ddewison ni’r pryd yma?

Dewis Ein Dietegydd

"NEWYDD ar gyfer 2024!!! Argymhellir y dylai deiet iach a chytbwys gynnwys o leiaf 2 dogn o bysgod yr wythnos, gan gynnwys 1 dogn o bysgod olewog. Mae pysgod sy'n llawn olew, fel eog, yn llawn Omega 3. Mae Omega 3 yn "fraster iachach" ac mae’n hanfodol yn y diet, a gall helpu i amddiffyn y galon a'r pibellau gwaed rhag clefydau. Mae pysgod olewog hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer Fitamin D. Mae'r gacen bysgod hon, sy'n cynnwys pysgod olewog a gwyn, wedi'i phobi yn y ffwrn ar y safle ac nid ydym yn ychwanegu unrhyw olew wrth ei choginio.

Rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i gynaliadwyedd yn Nhorfaen – ac yn rhan o'n hymrwymiadau i'n cyfrifoldebau amgylcheddol, dim ond pysgod sydd wedi'u hardystio gan MSC yr ydym yn eu defnyddio. Felly, gall ein disgyblion lenwi’u boliau gan wybod eu bod yn helpu i ddiogelu ein cefnforoedd, bywoliaeth pobl a chyflenwad pysgod y dyfodol."

Ydych chi'n ddisgybl sy'n rhoi tro ar yr opsiwn hwn am y tro cyntaf?

Os felly, rhannwch eich adborth gyda ni trwy anfon neges e-bost i louise.gillam@torfaen.gov.uk. Rhowch wybod i ni os ydych chi am weld yr opsiwn hwn ar fwydlenni yn y dyfodol, neu rywbeth arall?

Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2024 Nôl i’r Brig

Yn yr Adran hon