Canllaw Ailgylchu A i Y

Mae modd ailgylchu mwy na sbwriel yn unig. Gall y rhan fwyaf o nwyddau'r cartref gael eu hailgylchu a'u defnyddio i greu pethau newydd.

Dewiswch y llythyren berthnasol o'r rhestr isod i gael gwybod mwy.

A     B     C     Ch     D     Dd     E     F     Ff     G     Ng     H     I     J     L     Ll     M     N     O     P     Ph     R     Rh     S     T     Th     U     W     Y     

 

A

Aerosolau

Gallwch ailgylchu aerosolau. Gwnewch yn siŵr eu bod yn wag a rhowch hwy yn eich blwch du i’w casglu. I gael gwybod pryd mae eich diwrnod casglu ewch i adran Diwrnodau Casglu Biniau ar y wefan.

Ailgylchu ar stepen y drws

Mae gan y mwyafrif o gartrefi yn Nhorfaen wasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd.

I weld pryd mae eich diwrnod casglu ewch i’r dudalen Gwasanaeth Ailgylchu Blwch Du.

Alwminiwm - ffoil a chloriau

Gallwch ailgylchu ffoil yn eich blwch du. neu fe allwch ei ailddefnyddio.

Amlenni

Gallwch ailgylchu amlenni yn eich blwch du.

Yn ôl i’r brig

B

Bagiau bin

Gallwch brynu bagiau bin fioddiraddadwy neu rhai sydd wedi eu hailgylchu, yn y mwyafrif o uwchfarchnadoedd.

Bagiau plastig

Mae dros ddeng biliwn o fagiau plastig yn cael eu defnyddio bob blwyddyn - tua 167 y person. Nid ydynt yn fioddiraddadwy ac maent yn eistedd mewn safleoedd tirlenwi neu'n creu llanast ar y strydoedd. Pan fyddwch yn mynd i siopa nesaf, beth am fynd â rhai bagiau plastig gyda chi. Yn well fyth, prynwch "Fag am Oes" neu ewch â bag cynfas i gario eich siopa - maen nhw'n gryfach a gallwch eu hailddefnyddio sawl gwaith.

Batris

Yn hytrach na phrynu batris arferol, beth am brynu batris ailwefradwy sy'n parhau'n hirach ac yn well i'r amgylchedd. Mae mannau ailgylchu batris ar gael gan yr holl fân-werthwyr mawr ac yn ein Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.

Bin Gwyrdd

Os ydych yn rhan o’r cynllun bin dwbl, defnyddiwch hwn i ailgylchu eich gwastraff o’r ardd.

I gael gwybod mwy am eich casgliad ewch i’r dudalen Bin Gwyrdd.

Blwch du

Defnyddiwch hwn ar gyfer yr holl sbwriel cartref y gellir ei ailgylchu yn cynnwys aerosolau, papurau newydd, caniau, gwydr, tuniau, poteli plastig a dillad / esgidiau. I gael gwybodaeth am sut i ddefnyddio eich blwch ac i gael gwybod am eich diwrnod casglu rhowch glic ar dudalen Gwasanaeth Ailgylchu Blwch Du.

Bwyd anifeiliaid anwes

Os yw bwyd eich anifail anwes yn dod mewn can, gallwch ei ailgylchu. Golchwch y tun a’i ailgylchu yn eich blwch du. Gall bwyd anifail anwes gael ei gompostio yn eich cadi brown. NID yw’n addas i’w gompostio gartref oherwydd rheoliadau sgil-gynnyrch anifeiliaid.  Mae cydau bwyd cath wedi eu gwneud o ffilm fetel a NI ELLIR ei ailgylchu.

Bwyd

Gallwch ailgylchu peth bwyd fel compost neu mewn abwydfeydd. Gallwch brynu abwydfeydd ar y we neu mewn canolfannau garddio. Gallwch hefyd rhoi bwyd sy’n wastraff yn eich cadi brown. I weld pryd fydd eich bin gwyrdd yn cael ei gasglu ewch i’r dudalen Diwrnodau Casglu Biniau.

Bylbiau Golau

Newidiwch eich bylbiau golau am rai sy’n arbed ynni. Gallwch ailgylchu'r hen rhai yn y Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Yn ôl i’r brig

C

Cadi Cegin

Defnyddiwch eich cadi cegin i helpu i ddidoli gwastraff o’r gegin. Trosglwyddwch eich gwastraff bwyd i’ch cadi bwyd sy’n cael ei gasglu bob wythnos.

Caniau

Gallwch ailgylchu cans a thuniau drwy eu rhoi nhw yn eich blwch du (a fyddech cystal â golchi’r caniau yn gyntaf).

Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Gwaredwch ar wastraff a deunyddiau y gellir eu hailgylchu yma. Mae cyfleusterau ar gael am ddim. Codir tâl am wastraff masnachol.

I gael mwy o wybodaeth ewch i dudalen Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Cardbord

Gallwch ailgylchu cardbord yn eich Bag Glas. Neu, fe allwch ei ailgylchu yn y safleoedd cludo gwastraff ar draws y Fwrdeistref Sirol yn ogystal â mynd ag ef i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.

Carpion Papur

Gellir ailgylchu carpion papur yn eich Blwch Du. Gwnewch yn siŵr bod y papur mewn bag y gellir gweld trwyddo os yw hynny’n bosib (Dim bagiau du).

Cartonau

Erbyn hyn, gallwch ailgylchu cartonau bwyd a diodydd hylif o bapur (tetra paks) yn eich blwch du (ond cofiwch dynnu capiau, eu golchi a’u cywasgu yn gyntaf).

Casgliad Deunydd Ailgylchu a fethwyd

A wnaethom fethu eich deunydd ailgylchu? Efallai bod rheswm dros hyn. A oedd y blwch allan mewn pryd? A oedd y blwch yn cynnwys y deunyddiau cywir? A oedd y deunydd wedi ei olchi?

Os ateboch oedd i’r holl gwestiynau yma, ffoniwch 01495 766608.

Cetris argraffydd

Ewch â hwy i siopau sy’n gallu eu hailenwi.

Cetris inc

Mae llawer o elusennau a mudiadau yn fodlon cymryd eich hen getris inc, eu hadnewyddu a’u llenwi. Yna maen nhw’n cael eu hail-werthu.

Cewynnau

Mae wyth miliwn o gewynnau parod yn cael eu taflu i ffwrdd bob dydd. Maent yn cymryd cannoedd o flynyddoedd i bydru. Yn hytrach na defnyddio Cewynnau Parod gallwch ddewis rhai y gallwch eu hailddefnyddio i helpu i ddiogelu’r amgylchedd.

Mae’r cyngor yn cynnig taleb gwerth £30 i drigolion yn Nhorfaen. Gellir defnyddio’r daleb tuag at gostau prynu Cewynnau Go Iawn a sychwyr y gellir eu hailddefnyddio. Ewch i’r gwefannau canlynol i gael mwy o fanylion:

  • Fill your pants
  • Little Treasures
  • The nappy lady

Cewynnau go iawn

Er nad oes modd ailgylchu cewynnau, gallwch ddefnyddio cewynnau clwt i helpu i warchod yr amgylchedd.

Mae'r cyngor yn cynnig taleb o £30 tuag at y gost o brynu cewynnau go iawn am y tro cyntaf. Ewch i wefan Cewynnau Go Iawn i gael mwy o fanylion.

CDs (Cryno Ddisgiau)

Gallwch roi hen CDs i siopau elusen.

Compostio

Mae’n hawdd compostio yn Nhorfaen. I gael gwybod mwy ewch i’r dudalen compostio.

Corc

Gellir defnyddio corc naturiol i wneud hysbysfwrdd.

Croen llysiau

Gallwch roi croen llysiau yn eich bin compost yn y cartref neu yn eich cadi brown. Mae gwybodaeth bellach ar gael am gompostio.

Cwestiynau

A oes gennych unrhyw gwestiynau? Ffoniwch 01495 766608 neu e-bostiwch street.scene@torfaen.gov.uk.

Cyfrifiaduron

Gall trigolion sy’n dymuno ailgylchu nwyddau trydanol fynd â hwy i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Os yw eich eitemau yn gweithio, fe allech roi cynnig ar eBay.

Cylchgronau

Gallwch ailgylchu cylchgronau. Rhowch hwy yn eich blwch du.

I ganfod pryd mae eich casgliad ewch i’r dudalen Diwrnodau Casglu Biniau.

Cynhwysyddion prydau parod

Gallwch ailgylchu hambyrddau bwydydd parod (ffoil a phlastig) yn eich blwch du.

Cynllun Trwydded Fan

Mae cerbydau sydd wedi'u cynllunio i gario nwyddau neu ddefnyddio ôl-gerbyd angen trwyddedau i ddefnyddio'r Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd. Maent ar gael i drigolion Torfaen yn unig a rhaid i chi wneud cais o flaen llaw. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r dudalen Cynllun Trwydded Fan

Yn ôl i’r brig

D

Dail

Gallwch roi dail yn eich bin compost neu gellir eu casglu yn eich bin gwyrdd. Mae gwybodaeth am gompostio hefyd ar gael.

Darnau arian

Mae gan y mwyafrif o elusennau gynllun lle y gallwch gyfrannu arian tramor nad ydych ei angen mwyach.

Deunydd pacio

Gallwch ailgylchu pob math o ddeunydd pacio fel gwydr, tuniau, caniau, poteli, jariau a photeli plastig yn eich blwch du . Gallwch ailgylchu cardbord yn eich bag glas neu mewn safle cludo sbwriel yn y Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Pan fyddwch yn mynd i siopa nesaf, gwnewch ddewis craff i beidio â phrynu nwyddau sydd â llawer o ddeunydd pacio (ee wrth brynu ffrwythau  a llysiau, peidiwch â’u rhoi mewn bag plastig, rhowch hwy yn rhydd yn eich basged).

Deunydd pacio polystyren

Ni ellir ei ailgylchu. Pan fyddwch yn prynu pethau newydd, gwnewch ymdrech i brynu pethau sy’n cynnwys cyn lleied o ddeunydd pacio â phosibl.

Dillad

Gallwch roi eich dillad yn eich blwch du (mewn bag).

Dodrefn

Cysylltwch â Circulate,  Cwmni Ailgylchu Dodrefn. Gallant gludo’r dodrefn am ddim os ydyw mewn cyflwr da. Ffoniwch 01495 793187.

Mae yna lawer o gwmnïau fydd yn fodlon cymryd hen ddodrefn i’w ailgylchu neu fe allwch ei rhoi i siopau elusen a siopau ail law.

Dodrefn Swyddfa

Ailgylchwch eitemau drwy gwmnïau sy’n arbenigo fel Cwmni Ailgylchu Dodrefn Circulate. Ffoniwch 01495 793187.

‘Dolig

Gweler Nadolig

Drychau

Os ydynt yn gyfan a bod modd eu hailddefnyddio beth am rhoi cynnig ar eich siop ddodrefn ail law. Neu fel arall, defnyddiwch Circulate.

Duvets a gobenyddion

Os ydynt yn lân ac mewn cyflwr da, bydd siopau elusen yn fodlon eu derbyn. Yn anffodus ni allwch eu hailgylchu mewn banc ailgylchu tecstilau.

Dŵr

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu dŵr yn y cartref:

  • Cadwch potel o ddŵr yn yr oergell yn hytrach na rhedeg y tap nes bod y dŵr yn llifo'n oer
  • Peidiwch â gadael i'r tap redeg wrth i chi frwsio'ch dannedd, golchi eich dwylo neu eillio
  • Mynnwch gawod yn lle bath
  • Rhowch "hipo" neu fricsen yn nhanc dŵr eich tŷ bach i leihau'r dŵr a ddefnyddir ar ôl defnyddio'r tŷ bach
  • Defnyddiwch gasgen ddŵr i gasglu unrhyw law i ddyfrio planhigion yn y tŷ

Dŵr glaw

Os oes gennych ardd, beth am gasglu dŵr glaw mewn casgen ddŵr i'w ddefnyddio ar eich planhigion?

Yn ôl i’r brig

F

Fideos a DVDs

Gallwch roi hen fideos a DVDs i’ch siop elusen leol.

Yn ôl i’r brig

Ff

Ffabrigau

Gallwch ailgylchu hen ffabrig yn eich blwch du.

Ffacsau

I leihau ffacsau marchnata digroeso, cofrestrwch gyda’r Gwasanaeth Dewis Ffacsau ar 0845 0700 702 neu beth am gofrestru ar lein ar. Ailgylchwch y rhai yr ydych yn eu derbyn.

Ffoil

Gallwch ailgylchu ffoil yn eich blwch du neu ei ailddefnyddio.

Ffonau

Gallwch anfon hen ffonau yn ôl i BT. Cysylltwch â’r gwasanaethau cwsmeriaid ar 0800 800150

Ffonau symudol

Mae Oxfam yn derbyn eich hen ffonau symudol a’r gwefrydd. Cysylltwch â hwy i weld sut y gallwch fynd ati i’w rhoi.

Yn ôl i’r brig

G

Gardd- Cemegau

Mae cemegau gardd yn cael eu cyfri fel gwastraff peryglus o gartrefi a rhaid gwaredu arnynt yn ofalus. Ffoniwch 01495 766608.

Grwpiau Amgylcheddol

Os hoffech wybod sut y gallwch wneud mwy dros yr amgylchedd, cysylltwch â’ch grŵp Cyfeillion y Ddaear, lleol.

Gwastraff o’r ardd

Os ydych yn rhan o gynllun y Bin Dwbl yna gallwch rhoi gwastraff o’r ardd yn eich bin gwyrdd. Neu, fel arall, gallwch fynd ag ef i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. I weld pryd y mae eich bin gwyrdd yn cael ei gasglu ewch i’r dudalen Diwrnodau Casglu Biniau.

Gwlân

Gallwch roi peli gwlân yn y biniau tecstilau yn y safleoedd ailgylchu neu mae'n bosib y bydd eich siop elusen leol yn fodlon eu derbyn.

Gwydr Pyrex

Ni ellir ei ailgylchu am ei fod yn medru ffrwydro pan fyddai’n cael ei gynhesu yn y ffwrnes ailgylchu gwydr. Os oes gennych wydr wedi torri, lapiwch ef yn ofalus a’i rhoi allan gyda’ch sbwriel arferol.

Yn ôl i’r brig

H

Haenen lynu (cling film)

Ni allwn gasglu haenen lynu i’w hailgylchu. Beth am ddefnyddio llai o haenen lynu drwy storio brechdanau a bwyd mewn blychau plastig wedi eu selio.

Yn ôl i’r brig

J

Jariau

Gallwch ailgylchu jariau gwydr. Rhowch hwy yn eich blwch Du. I gael gwybod beth arall y gallwch eu hailgylchu ewch i’r dudalen blwch du.

Yn ôl i’r brig

L

Labeli

Nid oes rhaid i chi dynnu labeli oddi ar ganiau a photeli cyn eu rhoi yn eich Blwch Du i’w hailgylchu. Ond cofiwch eu golchi cyn i chi fynd ati i’w hailgylchu.

Yn ôl i’r brig

Ll

Llaeth – cynwysyddion (plastig)

Golchwch hwy a’u hailgylchu yn eich blwch du.

Llaeth - Poteli

Er ei bod yn well i chi ddychwelyd eich poteli llaeth i’ch dyn llaeth, er mwyn eu hailddefnyddio, gallwch hefyd eu hailgylchu yn eich blwch du.

Llinell Gymorth yr Amgylchedd

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ailgylchu, ffoniwch 01495 766608.

Llyfrau

Gallwch roi llyfrau sydd mewn cyflwr da i siopau elusen. Gallwch hefyd ailgylchu llyfrau yn eich blwch du.

Llythyrau

Gallwch eu hailgylchu yn eich blwch du.

Llythyrau sothach

I leihau’r llythyrau sothach yr ydych yn eu derbyn, cofrestrwch gyda’r Gwasanaeth Dewis Post .

Er mwyn osgoi dosbarthu post heb gyfeiriad i'ch cyfeiriad, llenwch Ffurflen Optio Allan Drws i Ddrws y Post Brenhinol.

Gallwch hefyd ailgylchu post sothach yn eich blwch du.

Yn ôl i’r brig

M

Materion gwyrdd

I weld yr hyn y mae’r cyngor yn ei wneud i annog byw yn wyrdd gweler ein tudalennau ailgylchu.

Matresi

Gallwch fynd â matresi i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Metel

Gallwch ailgylchu tuniau a chaniau metel. Rhowch hwy allan yn eich blwch du.  Gallwch fynd â metel sgrap i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Moddion

Dylech ddychwelyd poteli o foddion neu dabledi sydd heb eu gorffen, i’ch fferyllfa leol.

Yn ôl i’r brig

N

Nadolig - cardiau a phapur

Gallwch ailddefnyddio hen gardiau a phapur i wneud tagiau anrhegion neu gadwyni papur. Neu, fe allwch eu hailgylchu yn eich bag glas ar gyfer cardbord.

Nadolig – coed Nadolig

Ar ôl y Nadolig, gallwch ailgylchu'ch coeden go iawn trwy fynd â hi i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, lle gallwch hefyd gael gwared ar goed plastig. Gofynnwch i staff ar y safle am gyngor ar ba fae i'w ddefnyddio.

Nwyddau trydanol

Gall trigolion yn Nhorfaen sy’n dymuno ailgylchu eu nwyddau trydanol fynd â hwy i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Neu fel arall, os yw eich eitemau yn gweithio, fe allech roi cynnig ar elusen leol neu eBay.

Yn ôl i’r brig

O

Olew

Gallwch fynd ag olew injan i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.

Ni ddylid compostio olew coginio - ond mae modd compostio rhai ychydig ar y tro. Mae mwy o broblemau o lawer i ychwanegu olew coginio sydd dros ben i domen gompost o gymharu â'r manteision. Yn ogystal â denu llygod a chreaduriaid annymunol eraill i'ch pentwr compost, gallant achosi problemau i'r broses gompostio: gall yr olew ffurfio rhwystrau gwrth-ddŵr o amgylch ddeunydd arall, disodli dŵr a lleihau'r llif aer mewn tomen, a thrwy hynny arafu'r broses gompostio. Fodd bynnag, gellir compostio olewau llysiau fel olew had rêp, olew blodyn yr haul, olew corn neu olew olewydd mewn symiau bach iawn ar yr amod nad ydynt wedi dod i gysylltiad ag unrhyw fwydydd gwaharddedig (fel cig, caws neu bysgod). Os ydych chi wedi defnyddio rhywfaint o bapur cegin i amsugno ychydig o olew, bydd hynny'n iawn, ond peidiwch â thywallt cynnwys y ffrïwr saim yn eich bin compost. Mae rhai pobl yn defnyddio olew sy’n soled yn nhymheredd yr ystafell i greu peli bwyd i’r adar i’w rhoi yn yr ardd. NI ddylid tywallt olew coginio i lawr y sinc oherwydd fe all flocio’r pibau a’r draeniau.

Olew

Ni ddylid tywallt olew coginio i lawr y draen gan ei fod yn achosi'r draen i flocio. Cymysgwch yr olew gyda hadau adar a'i adael i galedu. Yna gallwch ei roi allan ar eich sil y ffenest neu'n hongian o goeden a bwydo'r adar yn y gaeaf. Gellir hefyd ei gompostio naill ai yn y cartref neu yn eich cadi brown.

Olew Coginio

Ni ddylech gompostio’r mwyafrif o olewau coginio - ond gallwch ailgylchu rhai, ychydig ar y tro.

Mae mwy o broblemau o lawer i ychwanegu olew coginio sydd dros ben i domen gompost o gymharu â'r manteision. Yn ogystal â denu llygod a chreaduriaid annymunol eraill i'ch pentwr compost, gallant achosi problemau i'r broses gompostio: gall yr olew ffurfio rhwystrau gwrth-ddŵr o amgylch ddeunydd arall, disodli dŵr a lleihau'r llif aer mewn tomen, a thrwy hynny arafu'r broses gompostio.

Fodd bynnag, gellir compostio olewau llysiau fel olew had rêp, olew blodyn yr haul, olew corn neu olew olewydd mewn symiau bach iawn ar yr amod nad ydynt wedi dod i gysylltiad ag unrhyw fwydydd gwaharddedig (fel cig, caws neu bysgod). Os ydych chi wedi defnyddio rhywfaint o bapur cegin i amsugno ychydig o olew, bydd hynny'n iawn, ond peidiwch â thywallt cynnwys y ffrïwr saim yn eich bin compost.

Mae rhai pobl yn defnyddio olew coginio sy'n solid ar dymheredd ystafell i wneud porthwyr adar (peli braster) ar gyfer yr ardd.

NI ddylech dywallt olew coginio sydd dros ben i lawr y sinc - gall flocio pibau a charthffosydd.

Gallwch ailgylchu olew coginio yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.

Yn ôl i’r brig

P

Paent

Gallwch ailgylchu paent drwy gynllun Ailbeintio’r Gymuned sydd dan ofal CoStar. Ffoniwch 01633 869227.

Gallwch hefyd fynd â phaent i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Papur

Gallwch ailgylchu papur o bob math yn eich blwch du. Post sothach, llythyrau, cardiau pen-blwydd a phapur swyddfa – gallwch ychwanegu’r cyfan oll i’ch deunydd ailgylchu arferol.

Papur anrhegion

Ni ellir ailgylchu papur lapio rhaid ei osod yn y bin â chaead porffor.

Papur cegin

Gallwch brynu papur cegin sydd wedi cael ei ailgylchu o uwchfarchnadoedd. Yn well fyth, defnyddiwch clytiau cotwm i olchi llestri, a gallwch eu hailddefnyddio. Gallwch gompostio papur cegin yn y cartref, neu yn eich cadi brown.

Papur Lapio

Ni ellir ailgylchu papur lapio rhaid ei osod yn y bin â chaead porffor.

Papur Newydd

Gallwch eu hailgylchu. Rhowch hwy yn eich blwch du.

I ganfod beth arall y gallwch ei ailgylchu, ewch i’r dudalen Gwasanaeth Ailgylchu Blwch Du.

Papur tŷ bach

Cadwch lygad am bapur tŷ bach wedi ei wneud o bapur a gafodd ei ailgylchu– mae’r mwyafrif o uwchfarchnadoedd yn ei werthu erbyn hyn. Gallwch ailgylchu’r rholiau papur tŷ bach yn eich bag glas.

Plastig

Rydym yn casglu’r mwyafrif o wahanol fathau o blastig cymysg yn eich blwch du.

Porfa o’r ardd

Gall porfa naill ai fynd yn eich bin compostio neu fe allwch ei rhoi allan yn eich bin gwyrdd. I weld pryd y bydd eich bin gwyrdd yn cael ei gasglu ewch i’r dudalen Diwrnodau Casglu Biniau. Mae gwybodaeth bellach ar gael am gompostio yn y cartref.

Post heb gyfeiriad

Er mwyn osgoi dosbarthu post heb gyfeiriad i'ch cyfeiriad, llenwch Ffurflen Optio Allan Drws i Ddrws y Post Brenhinol.

Poteli a chaniau diodydd

Gallwch eu hailgylchu – y cyfan sydd angen ei wneud yw eu rhoi yn eich blwch ailgylchu i’w casglu. Golchwch y poteli cyn eu rhoi allan os gwelwch yn dda.

I weld beth arall y gallwch eu hailgylchu ewch i’r dudalen Blwch Du

Poteli a jariau

Gall y rhain gael eu hailgylchu drwy eu rhoi yn eich blwch du. Gallwch adael y cloriau ar y jariau neu eu gadael yn rhydd yn y blwch. I gael gwybodaeth am sut i ddefnyddio eich blwch ac i gael gwybod am eich diwrnod casglu rhowch glic ar y dudalen Blwch Du.

Poteli a jariau gwydr

Gallwch ailgylchu poteli a jariau. Rhowch hwy yn eich blwch du. I weld beth arall y gallwch eu hailgylchu ewch i’r dudalen Blwch Du.

Potiau iogwrt

Gallwch eu hailgylchu yn eich blwch du.

Pren a choed

Gallwch fynd â phren i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd i’w hailgylchu.

Yn ôl i’r brig

R

Rwbel

Gallwch fynd â phridd a rwbel i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd.

Yn ôl i’r brig

Rh

Rhewgelloedd ac oergelloedd

Cysylltwch â’r cyngor i waredu ar eich oergell neu rewgell neu ewch â hwy i’r Ganolfan Ailgylchu Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Newydd. I drefnu casgliad ffoniwch 01495 762200.

Yn ôl i’r brig

S

Sbectol

Gallwch roi hen sbectol sydd mewn cyflwr da i wledydd sy’n datblygu o amgylch y byd. Gofynnwch i’ch optegydd lleol o ydynt yn eu casglu.

Sbwriel o’r cartref

Mae modd ailgylchu dros 50% o’ch sbwriel cartref. Mae’r sbwriel nad oes modd ei ailgylchu yn mynd i mewn i’ch bin â chlawr porffor. I gael gwybodaeth am yr hyn y gellir ei ailgylchu ewch i’r dudalen Blwch Du.

Mae manylion eich diwrnod casglu ar gael ar y dudalen Diwrnodau Casglu Biniau.

Silindrau Nwy

Gellir mynd â silindrau nwy i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Sinc

Mae sinc mewn batris – felly gweler yr adran batris i weld sut y gallwch eu hailgylchu.

Stampiau post

Wrth dorri o amgylch hen stampiau post ar amlenni (a gadael ffin o tua 1cm) fe allwch eu rhoi i Oxfam, i’w hailwerthu.

Yn ôl i’r brig

T

Tecstilau

Gallwch eu hailgylchu yn eich blwch du neu fynd â hwy i safleoedd cludo gwastraff.

Teganau plant

Ni allwch eu hailgylchu. Beth am eu rhoi i elusen leol, neu beth am ddefnyddio eBay.

Tetra Pak

Gallwch ailgylchu cartonau tetrapak a chartonau diod eraill yn eich blwch du.

Tiwbiau Past Dannedd

Gellir ailgylchu tiwbiau past dannedd yn eich blwch du.

Trydan

Diffoddwch nwyddau trydanol os nad ydych yn eu defnyddio. Mae setiau teledu, cyfrifiaduron a stereos yn defnyddio 50% o’r trydan yn y modd segur ag y maen nhw pan fyddant ymlaen.

Tsieina – Llestri ac Addurniadau

Os nad ydynt wedi torri, gallwch eu rhoi i siop elusen. Peidiwch â’u rhoi gyda’ch deunyddiau ailgylchu os gwelwch yn dda. Gallwch ailgylchu llestri sydd wedi torri yn yr adran rwbel yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

I ddarganfod yr hyn y gallwch ei ailgylchu neu beidio ewch i’r dudalen Gwasanaeth Ailgylchu Blwch Du.

Tuniau

Gallwch eu hailgylchu yn eich blwch du

Yn ôl i’r brig

Y

Yellow Pages

Ailgylchwch hwy yn eich blwch du.

Ysgolion

Gall ysgolion ailgylchu hefyd. Os hoffech i’ch ysgol gymryd rhan, ffoniwch 01495 762200 neu e-bostiwch street.scene@torfaen.gov.uk.

Y Tîm ailgylchu

I gysylltu â’r tîm ailgylchu ffoniwch 01495 762200 neu e-bostiwch street.scene@torfaen.gov.uk.

Yn ôl i’r brig

Diwygiwyd Diwethaf: 22/07/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig