Gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu â chymorth
Mae gwasanaeth casglu ailgylchu/ bin â chlawr porffor â chymorth ar gael am ddim, ar yr amod eich bod yn bodloni meini prawf penodol.
Os nad oes ganddynt rywun i helpu, gall trigolion sy’n methu rhoi eu heitemau ailgylchu a’i bin â chlawr porffor allan i gael eu casglu, fod yn gymwys i dderbyn y gwasanaeth hwn.
A ydw i'n gymwys?
Mae'r gwasanaeth ar gael i'r bobl ganlynol yn unig:
- sydd wedi'u cofrestru'n anabl; neu
- sydd â chyflwr meddygol corfforol sy'n golygu na allant symud eu gwastraff; ac
- nad oes unrhyw un abl yn byw yn yr eiddo.
Sut mae gwneud cais?
Cais am gasgliad ailgylchu a gwastraff â cymorthedig
Neu gallwch gysylltu â Galw Torfaen ar 01495 762200.
Er mwyn cael eich ystyried am y gwasanaeth hwn, bydd angen i ni drefnu i ymweld â'ch cartref i gadarnhau eich bod yn gymwys.
Diwygiwyd Diwethaf: 16/01/2025
Nôl i’r Brig